Skip to main content

ADWR AMERICAMIDD. Cyf. 20, Ehif. 4. EBRILL, 1859. Ehif. oll 282. (írcuttjoìratt. DYFYNIADAU O BEEGETH. "Os creffi ar anwireddau, Arglwydd, O Ar- glwydd, pwy a saif; ond y mae gyda thi íaddeuant, f'el y'th ofner." Salm 130 : 3, 4. Mae y Salmydd yn nechreu y Salm hon yn adrodd y trallod y buasai ynddo, a'r modd y bu iddo yn ei drallod alw ar enw yr Arglwydd. "O'r dyfnder y llefais &c." Nid trallod yn nghylch y 'freniniaeth ydoedd, (os Dafydd yn wir oedd awdwr y Salm,) ond trallod yn nghylch ei gyflwr, y cyfryw drallod ag yr oedd golwg ar Dduw yn maddeu anwiredd yn tu- eddu i'w symud. Hyderwn fod rhai yn y dyddiau hyn yn gwybod am y trallod hwn. " O'r dyfnder y llefais arnat &c." Nid oes neb yn galw ar Dduw ond o ryw "ddyfnder." "Ni raid i'r rhai iach wrth feddyg, ond y rhai cleifion." Ac y mae yn dda i ni allu meddwl nad oes un "dyfnder" yn y byd presenol, nad oes modd codi golwg oddi yno at Dduw wrth y drugareddfa. Yn yr adnod nesaf, y mae yn dangos ei awyddfryd a'i bryder, ar fod yr Ar- glwydd yn gwrando ei weddiau. " Arglwydd, clyw fy Uefain &c." Mae achos genym i ofni fod llawer yn ymarfer yn allanol â'r ddyled- swydd o weddio, heb fawr o wasgfa na chaledi arnynt am i'r Arglwydd eu gwrando. Ond y mae gwir weddio yn cynwys y teimlad hwn. Yna y dywed, " Os creffi ar anwireddau, Ar- glwydd, O Arglwydd, pwy a saif ?" Sylwn, I. Ar yr hyn a briodolir yma i'r Arglwydd, sef "craffu ar anwireddau." "Wrth hyn y golygir yn ddiau y bydd iddo ddwyn yr anwir- eddus i gyfrif, fel y gwna y barnwr gwladol ddwyn y drwg-weithredwr i gyfrif. Gallwn nodi yma, 1. Y bydd yr Arglwydd yn sicr o gyfrif â dynion am eu pechodau. Nid "os" o amheu- aeth yw yr " os " hon, ond o gadarnhad. Megys y geiriau hyny o eiddo ein Hiachawdwr, "Gs myfi a âf ac a barotoaf le i chwi, mi a ddeuaf drachefn ac a'ch cymeraf chwi ataf fy hun." Eel pe dy wedasai, yr wyf yn myned gyda sicr- wydd, a dychwelaf gyda'r un eicrwydd i'ch derbyn ataf fy hun, "fel lle yr wyf fi, y bydd- och chwithau hefyd." Eelly, gyda sicrwydd daw Duw i gyfrif â dyn am ei anwireddau. Nid oes le i gilio oddiwrth hyn. Mae cyfiawn- der tragywyddol Duw yn galw am fod barn,— mae y cam y mae llawer yn gael oddiwrth orthrymwyr yn y byd presenol yn galw fod barn,—mae diogelwoh a dedwyddwch y dos- barth rhinweddol o'r bydysawd yn galw fod barn,—mae y cam-gyhuddiadau a ddygir yn erbyn Duw a'i orsedd lân, gan elynion iddo, yn peri y bydd raid bod barn. Gyda sicrwydd, gan hyny, daw Duw i gyfrif â dynion am eu hanwireddau. 2. Bydd y cyfrif yn gyfrif manwl—-bydd yr Arglwydd yn "craffu ar anwireddau." Y gair "craffu" a arwydda sylw maniol. Bydd sylw barnol yn cael ei wneud ar bob anwiredd-— ar bob gweithred anwireddus, ac ar bob esgeul- usdod pechadurus. Ar weithredoedd pechad- urus yn erbyn Duw—yn erbyn dynion—ac yn erbyn ein lles penaf ein hunain, Fob anmharch o'r efengyl a'i hordinhadau—pob cam a wnaed â saint y Goruchaf. "Am bob gair segur a ddy wedo dynion y rhoddant gyfrif yn nydd y farn." "Duw a ddwg bob gweithred i farn, a phob peth dirgel, pa un bynag fyddo ai da ai drwg." Mae Duw yn sylwi ar ffÿrdd dyn, ao y mae "yn dal ar ei holl gamrau ef." 3. Duw ei hun fydd yn galw y pechadur i gyfrif—efe fydd yn craffu, " Os creffi ar anwir- eddau, AnaLWYni), &c." ííid ymddiried y gorchwyl hwn a wna i un o'i brophwydi—nid i un angel nao archangel, ond dyfod ei hun a wna. Bydd y gorchwyl yn ddigon pwysig i alw am bresenoldeb Duw ei hun. Duw, yn mherson y Gwaredwr yn ein natur ni, fydd yn barnu y byd mewn cyfìawnder, yn y dydd mawr a ddaw. II. Na ddichon yr annuwiol sefyll barn â Duw. "Os creffi ar anwireddau, Arglwydd, O Arglwydd, pwy a saif?" Ymofynwn yn mha fodd y mae dynion yn ceisio sefyll yn awr, gan wrthsefyll argyhoedd- iadau a ahymhelliadan yr efengyl, ac edrychwn a allant ar y tir hwnw, neu a oes gobaith ax ryw dir arall^ i sefyll barn â Duw?