Skip to main content

CEMI CAMIDD. Oyf. 20, Rhif. 1. IOÌTAWR, 1859 Rhif. oll 229. (í^îaxcl)xaìsau. CYFARCHIAD AT HBNAFGWYR AR DDIWEDD Y FLWYDDYN 1858. Ìeodyr a Thadau,—Ysgrifenir y llineHau hyn pan y mae y fiwyddyn 1858 yn tynu at âerfynu; ond bydd ysgatfydd wedi terfynu cyn y cyrhaeddant atoch chwi. Mor gyflym y mae amser yn myned heibio! Heddyw yn unig sydd eiddom ni—ddoe nid ydyw—ac yfory pwy a'i gwel ? Peth difrifol ydy w sylwi ar ddiwedd unrhyw beth, yn enwedig diwedd y tymorau ag yr ydym yn pasio drwyddynt—diwedd haf, diw- edd gauaf, diwedd blwyddyn. Am y cyfryw gyfnod gallwn ddweyd, y mae ei ddyddiau a'i oriau wedi pasio ac yn ddi-alw yn ol; ond y mae ei effeithiau yn parhau, a pharhant dros byth! Pa effaith a adawodd y fiwyddyn 1858 arnom ni—pa ddefnydd a wnaethom o'i gwerthfawr freintiau? "Adda, pa le yr wyt ti?" Pa le yr ydym ninau—holwn ein hunain rhag ein cael yn y diwedd yn annghymeradwy. Mae tymor henaint yn dymor pwysig a dyddorol. Tymor ydyw ag y dylai fod genym drysor helaeth o wybodaeth a phrofiad, ac awydd ynora i rybuddio ereill o enbydrwydd y pethau fuont yn niweidiol i ni. Tyinor ydyw ag sydd yn galw am lawer o gydym- deimlad a thynerwch. Gwelir ambell ysgogyn hunan-falch yn dueddol i ddiystyru hen bobl egwein a methedig. Ond arwydd o anwybod- aeth ydyw hyny, a diffyg dygiad i fyny teil- wng mewn ieuenctyd. Mae parchu henaint, a chydymdeimlo â hwynt yn eu trallodion, yn beth ag y mae Duw yn ei gymeradwyo yn fawr. Tymor y gofidiau ydy w tymor henaint. " Oyn dyfod y dyddiau blin, a nesau o'r blyn- yddoedd yn y rhai y dywedi, Nid oes i mi ddim dyddanwch ynddynt." Dyna yw tymor henaint—"dyddiau blin" ydynt, a dyddiau nad oes dyddanwch i'w ddysgwyl ynddynt oddiwrth bethau y bywyd presenol. Tymor ydy w ag yr ydym i ddysgwyl ymädifadrwydd ynddo o lawer o betbau dymunol ag y buom unwaith, ond odid, yn eu mwynbau—ymddi- fadrwydd o iechyd fel y buwyd yn ei fwynham unwaith, ymddifadrwydd o nerth i allu myned o ddeutu i ymweled â cbyfeillion anwylaidd a hoffus, ac ymddifadrwydd o bertbynasau trwy angau, un ar ol y llall, y rhai y bu eu cyfeill- ach a'u cymhorth i ni yn werthfawr a hyfryd. Gan hyny, ymofynwn am gysuron a dyddan- wch o wlad arall, uwch na'r ddaear hon, cys- uron y gwirionedd, dyddanwch yr Ysbryd Glân. Mewn henaint y mae y rhybuddion yn aml~ hau ac yn dwyseiddio nad oes i ni yma ddinas barbaus—ceisiwn ninau y ddmas y mae iddi sylfeini, saer ac adeüadydd yr bon yw Duw. Bydded yn amlwg ynom mai coisio yr ydyrn wlad well a hono yn un nefol. Peth difrifol ydyw gweled hen bobl yn byw yn amddifad o rinweddau ac yn ddyeithr i gysuron crefydd Mab Duw. Gwelir rhai felly, —wedi treuliö eu hoes yn anufudd i'r efengyl —yn ymyl y Tŷ—wrth y trothwy mewn ys- tyr—ond yn estroniaid oddiwrth wladwriaeth Israel, yn ddyeithriaid i amodau yr addewid, heb Grist, heb obaith gauddynt ac heb Dduw yn y byd. Gwelir rhai yn nglŷn â phechodau rhyfygus mewn hen ddyddiau—yr hen wr yn< hen wr meddw, ac yn tynu efallai at ei 80ain mlwydd oed. Arall yn gablwr, yn cymeryd yr enw mawr yn ofer, ac yn ymyl cael ei wysio i'r farn i roi cyfrif am ei gabl-eiriau ac am bob gair segur. Arall yn ddifenwr ac yn erlidiwr, yn myned yn waeth waeth, yn galetach galet- ach, fel y mae yn tynu at derfyn ei ddyddiau. Oofied y eyfryw fod barn i fod, ac yn eu hacbos hwy, beth bynag am ereill sydd yn ieuangach, fod y farn yn ymyl! Dymunem anog henaint yn arbenig i icneyä ùrys i edifarhau a throi at yr Arglwydd. Y mae yr Arglwydd yn drngarog—mae yn maddeu i'r dychweledig, pa beth bynag fyddo ei gy- meriad blaenorol wedi bod. Mae Iesu Grist yn Waredwr holl-ddigonol i bwy bynag a gredo ynddo. Mae modd dycbwelyd—mae modd dyfod i'r winllan am un awr ar ol iddi