Skip to main content

A£* Cyf. 17, RhiF. 12. RHAGFYR, 1856. Ehif. oix 204. Bttcljoraiiljoìratül. NICHOLAS RIDLEY, D. D., ESGOB LLUNDAIN. Dr. Ridley a gafodd ei eni yn Northumber- land, a ddaeth yn feistr neu yn athraw o Bembroc Hall. Efe a gafodd ei ddychwelyd trwy ddarllain llyfr, o waith un Betram, ar y sacrament, &c. Ac efe a gadarnhawyd trwy ymddyddan â Dr. Cranmer, a phedwar raerthyr arall. Brenin Edward y VI. a'i gwnaeth ef yn esgob Llundain.—Yn nechreuad teyrnasiad y frenhines Mari yr oedd ef yn"un o'r rhai cyntaf a garcharwyd yn y twr am ffydd yr efengyl; oddiyno danfonwyd ef i'r Rydychen gyd â Chranmer a Latimer, ac yno cadwyd ef gyda hwy yn y carchar cyffredin; ac yn mhen ych- ydig amser, etholwyd ef oddiwrthynt, a rhodd^ wyd ef i ofal un Irish, gyd a'r hwn y bu hyd ddydd ei ferthyrdod, yr hyn a fu yn Hydref 16,1555. Mewn llythyr at Latimer, yn ngharchar, y mae'r geiriau canlynol: "Yrwyf yn dymuno arnat, dad da, i adael i mi gael rhyw beth yn ychwaneg i gysuro fy nghalon; canys oddieithr i'r Arglwydd fy nghynorthwyo yn ei wasan- aeth, mi a chwariaf ran marchog digalon: Ond efe a all wneuthur y llwfr i ymladd fel dyn." Mewn llythyr at Mr. Bradford efe a ysgnfen- odd fel hyn; "Er mor belled yw Llundain oddiwrth y Rhydychen, eto yma derbyniasom fwyd, arian, a chrysau, nid yn unig oddiwrth %in cydnabod, ond hefyd oddiwrth ddyeithriaid. Mia wr. er mwyn pwy y gwnaethan't hwy.byn. "Drachefn, er pan glywais am wych gyfadd- efiad ac ymadawiad ein hanwyl frawd Roger, bendigedig fyddo Duw am hyny, ni theimlais i ddim trymder a marweidd-dra yn fy nghalon, fel ag yr oedd ar ryw amserau o'r blaen. "Draçhefn, bendigedig fyddo Duw, er ein holl rwystrau caled, a'r drwg air a roddwyd i fci, yr ydym yn llawen yn Nuw. A'n holl ofal yw, ac a fydd, trwy ras Duw, i'w foddloni a'i wasanaethu ef; oddiwrth, yr hwn yr ydym ni yn dysgwyl, yn 0i y ^^ daearoì a chyfnew- 45 ídiol hyn, y cawn feddiannu Uawenydd tragy- wyddol a pharhaus ddedwyddwch gyd ag Abraham, Isaac a Jacob. Fel na bu eto un dyn dysgedig, ysgolhaig, nac un aralì a ymwel- odd â ni er pan ddaethom i'r Bocwdo* hwn, yr hwn a ellir ei aíw yn awr, cynulleidfa'r CicondamsJ canys nid ydym yn llai na thri: Ac mi a anturiaf ddywedyd fod pob un o hon- om yn foddlon i'w ran; yr hyn sydd rodd dda a graslawn ein nefol Dad. Ffarwel: Nyni a gyfarfyddwn ryw ddiwrnod trwy ras Duw, ac a fyddwn yn llawen yn nghyd, pa ddydd sy'n sicr yn neshau.—Caniata fod hyn ar frys." Y nos cyn iddo ddyoddef, efe a fynodd eillio ei farf, ac a olchodd ei draed; ac fe ddarfu wahodd ei feistres Irish, sef ei letywraig, ac ereill ag oedd o aragylch iddo i ddyfod i'w briodas. Pan gly wodd ei feistres Irish hyn, hi a wyl- odd; ond efe a ddywedodd, "Feistres, mi a welaf yn awr nad ydwyt yn fy ngharn; canys pan byddi'n wylo, ni byddi di yn fy mhriodas, ac ni byddi föddlon i'r briodas. Mi a welaf nad ydwyt yn gymaint o ffrynd i mi ag y meddyliais dy fod; ond ymfoddlona dy hunan, er bod fy moreu-fwyd yn llym ac yn boenus, eto fy swpper a fydd yn fwy hyfryd." Ei frawd a gynygiodd eistedd i fyny gyd ag ef, ond ni fynai ef i hyny fod; ond efe a ddy- wedodd, "Yr wyf yn bwriadu myned i'm gwely, a chysgu mor esmwyth ag y cysgais erioed o'r blaen." Y boreu-ddydd nesaf, efe a ddaeth allan, mewn gŵn du teg, a Uun brathiadau arno, a choler o felfed arno. Edrychodd yn ei ol, a chanfu ei gyfaill Latimer yn dyfod ar ei ol, wrth yr hwn y dywedodd, "O gyfaill! a wyt ti yna?" "Ydwyf," ebeLatimer, "miaddaeth- um ar dy ol mor fuan ag y gallaswn dy ddilyn." Gwedì dyfod at y pawl, dyrchafodd ei lygaid a'i ddwylo tu â'r nef; ac yno, gyd â gwyneb- pryd siriol, ehedodd at Latimer, ac a ddywed- odd (gan ei gofleidio a'i gusann ef) "Bydd o * Mae y gair Borcardo, yn arwyddo carchar. t Y gair Cwondams, a arwydda ycbydig nifec.