Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf. 17, Rhif. 11. TACHWEDD, 1856. Ehif. oll 203. Buíljbraitljoîíatol. HÜGH LATIMER, D. D. Hugh Latimer a gafodd ei em' yn ìíhircesson, ac yr oedd ef yn Babydd gwresog, nes iddo trwy ewyllys Duw, ac ymgnis Thomas Bilne}7, gael ci ddwj'n i wir wybodaeth o Grist. Yn ol hyn, efe a ddaeth yn bregethwr awyddus a gwresog , o'r efengyl. Efe a wnawd gan frenin Harri yr VIII. yn esgob Caerangon. Ac yr oedd yn beth arferedig ar ddydd Calan newydd, i'r es- gobion anrhegu rhyw beth i'r brenin, mewn ffordd o galenig; Latimer ar y pryd hyny a roddodd iddo yn anrheg y Testament ìíewydd, wedi ei gylymu mewn napcyn, a'r geiriau can- lynol oedd wedi eu hysgrifenu oddifewn iddo; Puteinwyr a godinêbwyr afarna Duw. Gan ei fod ef yn gweled, ar ddyfodiad allan y chweched erthygl, na allai ef, gyd â chydwy- bod rydd gadw ei esgobaeth yn hwy, efe a'i rhoddodd i fyny yn ewyllysgar. A phan y rhoddodd ef heibio yr offeren-grys yn ei ystaf- ell, yn mhlith ei ffryndiau, efe a neidiodd gan lawenydd, ac a ddywedodd, " Yr wyf yn teimlo fy ysgwyddau yn fwy ysgafn trwy gael fy rhyddhau oddiwrth faich mor drwm."—Hyn a ddigwyddodd yn y flwyddyn 1539. • Yn ol hyn, efe a ddychwelodd at ei berson- aeth i West Kingston, yn Wiltshire, nid yn mhell oddiwrth Tryste. Ond yr esgobion pabaidd ni adawent ef yn llonydd, ond erlidiasant ef, hyd nes iddynt ei ddodi yn y twr; ac yno y bu hyd oni ddaeth Edward y VI. i'r goron. Pan y rhyddhawyd ef, efe a ddychwelodd at ei waith, ac a fu yn bregethwr ffyddlon a gofalus trwy holl deyrn- asiad y brenin hwn; yn pregéthu ddwywaith bob dydd Sabboth, er ei fod lawer dros dri- ugain oed. Yr oedd ef yn arferol o fod yn ei lyfr-gell haf a gauaf, am ddau o'r gloch y boreu. Efe a rag-welodd ac a rag ddywedodd yr holl blâau a ddyoddefai Lloegr, dan deyrnasiad y frenines Marì; ae hefyd, efe a rag-ddywedodd, yn mherthynas iddo ei hunan, y byddai ei waith 41 ef yn pregethu'r efengyl, yn achos iddo golli ei fywyd. Yn nechreuad teyrnasiad y frenines Mari, anfonwyd cenad i'w ymofyn ef i Lundain, o hyn y cafodd rybudd chwech awr cyn iddo ddyfod: Ond yn Ue ffoi parotodd ei hun i'r siwrnai i Lundain. A phan ddaeth y genad ato, efe a ddywedodd wrtho ef, "Groesaw ffrynd; myfl a af mor ewyllysgar i Lundain, i roddi cyfrif am fy ffydd, a phe bawn yn myned i unrhyw le yn y byd. Ac nid wyf yn amheu, fel ag y gwnaeth Duw fi gynt yn addas i breg- ethu'r gair o flaen dau dy wysog rhagorol, na bydd iddo yn awr fy nerthu i ddwyn tystiol- aeth i'r gwirionedd, o flaen y írenines hon, naill ai er ei chysur tragywyddol, neu ei hang- hysur." Eel ag yr oedd ef yn marchogaeth trwy Smithffild ar yr achos hyn, efe a ddywedodd, "0 Smithffild, yr wyt yn gruddfan am danaf hir amser." Wedi ei ddwyn ef o flaen y cynghor, yn ol llawer o watwor a dirmyg, anfonasant ef i'r twr; lle y darfu i'r Arglwydd ei gysuro a'i nerthu, fel y dyoddefodd yn amyneddgar, nid yn unig galedi ei garchariad, ond efe a ddiys- tyrodd ac a chwarddodd am ddirmyg ei elynion. Yr oedd yn cael ei gadw yno yn amser gauaf heb dân, ac yntef yn hen ac yn wan; ond efe a ddywedodd wrth y rhaglaw, "Yr ydwyt yn tybied y llosgaf, ond oddieithr i ti roddi i mi i, mi a'th ^dwyllaf yn dy ddysgwyIiadau; oblegid yr ydwyf yma yn barod i drengu gan oerfel." Efe a weddiodd yn neillduol am dri pheth; y peth cyntaf oedd, Mai fel ag yr oedd Duw gwedi trefnu iddo fod yn bregethwr y gair, y bydflai iddo roddi gras iddo fel yr arosai wrth y gair, fel ag y gallai roddi gwaed ei galon am dano. Yr ail beth oedd, Ar i Dduw o'i dru- garedd adferyd ei efengyl i Loegr, drachefn, a thrachefn. Yr oedd yn ail adrodd y geiriau diweddaf hyn yn fynych yn ei weddi, gyd â'r fath ryddid a'r fath daerni, fel pe buasai yn gweled Duw wyneb yn wyneb. A'r trydydd peth oedd, Ar i Dduw gynal y dywysoges Eliz-