Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf. 17, Rhif. 9. MEDI, 1856. Ehip. oix 201. Jíloesol a (ÍJjrefjiìŵol. GWYLIADWRIAETH Y GALON". PEEGETH GAN T PARCH. JAMES DATIES, ALLEN, O. Diar. 4: 23. Cadw dy galoD yn dra diesgealus &c. Calon dyn yw y rhan waethaf cyn ei had- newyddu, a'r rhan ofeu ar ol ei hadnewyddu. Y mae yn eisteddfod egwyddorion, ac yn ffyn- onell gweithrediadau. Yr anhawsdra mwyaf mewn gwir ddychweliad yw ynill y galon at Dduw, a'r anhawsdra mwyaf ar ol hyny yw cadw y galon gyda Duw. Dyma y pwys mwyaf sydd yn gwneyd y ffordd mor gul a'r porth mor gyfyng. Cyfarwyddyd a chynorth- wy yn y gwaith pwysig hwn yw prìf amcan y testyn. Wrth y galon yn y testyn y deallir yr holl enaid; megys, y deall, Rhuf. 1: 21; y cof, Salm 119:11, " cuddiais dy ymadroddion yn fy nghalon; y gydwybod, "os ein calon a'n con- *demnia," 1 Ioan 3 : 20, &c. Wrth gadw y galon y deailir ymarferyd â phob moddion dwyfoi, er ymgadw oddiwrth bechodau a chynyddu mewn rhinweddau. Y dull ag y mae y ddyledswydd i gael ei chyflawni,—"yn dra diesgeulus." Cadw gyda phob cadwraeth, yr hyn sy'n dangos mai gor- chwyl anhawdd y w cadw y galon. Y rheswm dros gyflawniad y ddyledswydd, "Oanys allan o honi y mae bywyd yn dyfod." Y galon yw ffynonell egwyddorion; Luc 6: 45, **Y dyn da, o drysor da ei galon, a ddwg allan bethau da; a'r dyn drwg, o ddrygionus drysor ei galon, a ddwg allan ddrygíoni." Atheawiaeth: Mai iawn drefnu y galon yw prif orchwyl bywyd y Cristion. Ymdrechaf sylwi fel y canlyn; I. Rhai sylwadau ar gynwysiad y ddyled- swydd. 1. Gwneyd sylw manwl ac aml o agwedd y gaJon. Dyma orchwyl dyeithr i lawer; ond mae y gwir Gristion yn edrych i ansawdd ei galon, i gael gweled pa fodd mae pethaa yn sefyll rhyngddo a Duw. " Yr ydwyf yn ym- ddyddan â'm oalon; fy ysbryd sydd yn ohwilio ya ddyfal," Salm 77:6. 33 2. Dwfn ostyngeiddrwydd o herwydd dryg- ioni ac annhrefn y galon; megys Hezeciah yn ymostwng o herwydd dyrchafiad ei galon, 2 Cron. 32 î 26. GorchymynWyd i'r bobl yn nyddiau Solomon Wneuthur gWeddiau a deisyf- iadau yn erbyn "pla eu caîonau," 1 Bren. 8: 38» Mai y gwir gredadyn yn ei hoìl gyfaddefiadau yn cyfeirio at ei galon, ac yn dywedyd, "dyma'r archoll a'r pia;" deisyfiadau ei oes yw, cael ei buro oddiwrth lygredd ei galon, "Glanha fi oddiwrth fy meiau ctiddiedig," Salm 19: 12. Caiff ymddangos heb frycheuyn na chrychni, na dim o'r cyfryw, yn y man, Eph. 5: 27. 3. Gweddi daer a deisyfiad hiraethlawn am burdeb ac uniondeb calon, " Una fy nghalon i ofni dy enw," Salm 86: 11. Dyma brif fater gweddiau y gwir dduwiolion. Maent yn llanw eu genau â rhesymau, yn eiriol yn daer, ac yn wylo yn hidl am hyn, Oh am galon i ffieiddio pechod yn fwy, a charu Duw yn llawnach, a'i ddilyn yn llwyrach. Dywedir am Mr. Brad- ford, na roddai fyny cyfaddef ei bechodau, nes teimlo ei galon yn dryllio o herwydd pechod. 4. Ymgyfamodi â'n calon i ymgadtfr oddi- wrth achlysuron pechod, trwy ba rai y mae y galon yn cael ei denu i bechod, yn nghyd» gwyliadwriaeth fanylaidd dros ein calonau. Gwnaeth Job amod â'i lygaid, Job 31: 1. "Gwyn ei fyd y dyn a ofno yn wastadol," Diar. 28: 14. Rhaid treulio ein holl dymor mewn ofn, rhag colli y nôd. 5. Parhaus ystyriaeth o holl bresenoldeb Duw gyda ni, gosod yr Arglwydd bob amser ger ein bron, Pan y byddo llygäd ein meddwl ar Dduw yn ei fawredd, nis gallwn gofleidio gwagedd, Gen. 17:1; Job 31:4. Cadw'r galon yw gorchwyl caletaf y Cristion; mae cadw dysgyblaeth ar y meddwl yn costio yn ddrud iddo, croeshoelio y cnawd a'i wyoiau ali chwantau, Gal. 5: 24; marweiddio gweithred- oedd y corff, Rhtif. 8: 13; ymlanhau oddiwrth bob halogrwydd cnawd ac ysbryd, a pherffeith- io sancteiddrwydd yn ofn Duw, 2 Cor. 7:1. Mae yn orohwyl cyson a gwastadol; mae eüi llafur a'n bywyd i derfynu gyda eu gilydd.