Skip to main content

Cyf. 17, Rhif. 5. MAI, 1856. Rhif. oll 197. Jttoesol a (íljrífgobol. OOSPEDIGAETH DYFODOL. 2 Thes. 1: 9, "Y rhai a ddyoddefant yn gospedig- aeth, ddinystr tragywyddol oddi ger bron yr Ar- glwydd, ac oddiwrth ogoniant ei gadernid ef." Mae yn eglur oddiwrth natur Ilywodraeth Jehofa, tystiolaeth y gwirionedd dwyfol, a thystiolaeth cydwybod, fod byd ar ol hwn, yn gynwysedig o wobrwyon a chospedigaethau. Mae cyfiawnder yn galw am i bethau gael eu hunioni. Mae y byd hwn yn llawn cymysgedd ac anhrefn; mae y drygionus yn llwyddo, nid ydynt mewn blinder fel dynion eraill, ae ni ddialeddir arnynt hwy gyda dynion eraill, Salm 73: 5. Nid yw acbos y cyfiawn yn cael ei amdditfyn, maent dan awdurdod yr annuwiol yn fynych, yn cael eu mathru dan draed a'u herlid ganddynt. |]Ond mae yn ddigon eglur na pharha pethau yn yr agwedd hon yn hir: mae Duw yn sylwi ar y drwg a'r da, ac efe a ddaw â phawb i gyfrif, 2 Oor. 5:10. Oaiff y cyfiawn en gwobrwyo, a'r drygionus eu cospi, 2 Thes. 1: 6, 7. Athrawiaeth:—Fod cospedigaeth yn aros y drygionus yn y byd a ddaw. I. Amcanaf wneyd rhai sylwadau arweiniol. 1. Sylwaf fod sefyllfa o ymwybodol drueni yn aros y drygionus, gan fod barn i gymeryd lle. Mae y byd hwn yn gymysgedig,—yma mae yr efrau a'r gwenith yn cyd dyfu, Matt. 13: 80. Yno bydd y gwenith yn cael ei gasglu i'r ysgubor, a'r efrau yn cael eu llwyr losgi. Mae y gosp hon yn cael ei desgrifio dan amryw- iol arwydd eiriau; megys, wylofain a rhincian dannedd, Matt. 25: 30; y pryf nad yw yn marw, Marc 9: 14; y llyn yn Uosgi o dân a brwmstän, Dat. 20: 10. Duw yw goleuni yr holl greadigaeth ddeallawl; a lle bynag y mae yn cuddio ei wyneb, yno y mae yr anialwch a'r dyryswch mwyaf. 2. Fod oosp y drygionns yn dechreu yn un- iongyrchol yn angeu. Mae ei ysbryd yn disgyn yn ddioed i uffern. Gwel ddameg y gwr goludog, Luc 16: 28. Dywed Pedr hefyd fod y rhai y bu Noah yn pregethu íddynt yn awr yn ngharchar uffern, 1 Pedr 3: 19. 3. Y byddant yn derbyn eu cosp yn gyflawn yn nydd y farn. Cyhoeddir y ddedryd arnynt yn ngwydd pawb. Dygwch hwynt yma, a Ueddwch hwynt ger fy mron i, Luc 19: 27. Bydd eu colled a'u teimlad o honi yn fawr a threiddiol, pan y dywed y Barnwr, Matt. 25: 41, "Ewch oddi wrthyf, rai melldigedig &c." Yna byddant yn eu priodol gartref. " Yr hwn sydd anghyfiawn, bydded angbyfiawn eto &c." II. Rhai gosodiadau ar natur y gosp. Sylwaf, 1. Y bydd dymuniadau pechadurus yn y byd nesaf yn dra nerthol a hollawl anattaliol. Y bydd eu dymuniadau yn nerthol sydd eglur wrth ystyried fod natur pechod i gynyddu yn ei lywodraeth ar y meddwl pa le bynag y mae yn teyrnasu. Mae pob pechadur annychwel- edig yn myned waeth waeth yn y byd hwn. "Eithr drwg dynion a thwyllwyr a ânt rhag- ddynt waeth waeth," 2 Tim. 3: 13. Mae pob pechod yn cynyddu wrth gael ei feithrin. Mae'r cyfryw yn trysori iddynt eu hunain ddigofaint erbyn dydd y digofaint a datguddiad cyfiawn farn Duw, Rhuf. 2:5. Eid oes genym le i gredu fod y dymuniadau hyn yn lleihau yn y byd nesaf. Pan fwriwyd Satan o'r nefoedd fe amlygodd gyflawn elyniaeth at Dduw, a chas- ineb at ddynion. Dywed Pedr ei fod megys llew rhuadwy yn rhodio oddiamgylch, gan geisio y neb a allo ei lyncu. Lle y gwelwn nad yw ei natur faleisus wedi gwanychu. Felly bydd rhan fawr o'r attaliadau sydd ar flbrdd y drygionns yn y byd hwn i gael eu symud ym- aitb. Mae yr attaliadau yn cyfodi oddiwrth obaith a dymuniad am anrhydedd, ac oddiwrth ymrysonfeydd yr Ysbryd. Yno ni bydd un gradd ó obaith, nac un cyfaill i ddysgwyl parch oddiwrtho, ac yno y mae yr Ysbryd Glân wedi darfod ac ymryson â dynion,—dim dylan wadau oddiwrtho mwy! 2. Y bydd y dymuniadau hyn yn y byd tra- gywyddol heb en llenwi. Yn eu cysylltiad â Duw, y mae holl ddymuniadau y gelyn a'i ymosodiad yn erbyn ei ogoniant, yn erbyn oyf- lawnìad ei ewyllys a llwyddiant ei deyrnas. 17