Skip to main content

Cyf. 17, Khif. 4. EBRILL, 1856. Ehif. oll 196. BurI)í>rattI)obatDl. ADGOFION HIRAETHLON AM BEEERINION PENARTH, MALDWYN. GAN IORTHETN GWYNED». Y mae ardal Penartli yn sefyll ar fryn bych- an iachus, oddentu niilldir a lianer i'r I)e o dref Llanfaircaereinion; ac yn cael ei plioblogi gan dyddynwyr parchus a llafurwyr ymdrecbgar. Yno y pregethwyd yr efengyl gyntaf o fewn y plwyf gan yr Annibynwyr. Codwyd capel yno er ys dros chwe' deg o flynyddau yn ol, yn yr hwn y bu yr enwogion Richard Tibbot a -lolm Roberts, Llanbrynmair, a James Davies, Aber- havesp, a James Davies, Allen Co., Oliio, yn gweinidogaethu yn llwyddiannus. Derbyniâs- ant ugeiniau o aelodau yno ar wahanol amserau, o ba rai y niae ycbydig yn aros hyd heddyw, ond y rhan fwyaf a hunasant. Bu ysgrifenydd y llinellau liyn yn gweinidogaethn yno hefyd am dros un deg un o flynyddau; a cherfiwyd enAv y lle, gan law anweledig, yn ddwfn ar ei galon, a bydd yn anhawdd i ddiin ei ddileu byth. Gerllaw y capel y mae hên fynwent fawr drefnus, yn yr hon yr oedd Iluoedd o dduwiol- ion wedi hir orwedd cyn i ni weled y lle, ond gwelsotn en henwau ar gerig eu beddau, a chly wsom gan eraill am eu gweddiau taerion, eu ffydd fywiol, eu cariad gwresog, eu brawdgar- wch diragrith, eu llafurion diflino, a'u buchedd- au rhinweddol. Yn mhlith y rhai hyn yr oedd Evan Thomas, Maesycroesau, a'i briod—Thos. Davies, Hrynelan, a'i wraig—lienjamin íludson —David Thonias—Mrs. Richards, Tynyfawnog —Benjamjn Lloyd—David Davies, ac eraill. Claddwyd yno hefyd luoedd o blant bychain; sef babanod D. Roberts, Penybelan—D. Davies, Moedog—Hugh Joues, Vrongoch—I. Jones Penarth—J. Roberts, Cefnceufronydd—Edward Roberta, Tailor—Francis Phillips, Rhosfawr— Rich'd Pugh, Tyisaf—E. Roberts, Brynhwdog —Edward Willianis—W. Jones, Tailor—Ed- ward Morris, Glyn, ac amrai eraill. Buasai yn fwy dymunol genym ninau pe gallasem roddi ein Samuel tioffm i orwedd yn eu plith; ond rhaid iddo ef huno yn ei anedd unig yn llwch mynwent Utica, yn mhell bell o'i enedigol fro, hyd udganiad yr udgorn mawr diweddaf, pan y cyfyd i ogoniant, ac yr una gyda babanod bychain cyfeillion Penarth a Jerusalem i ganu mawl i'r Oen dros byth ar fryniau gwynfyd. Yn amser ein gweinidogaelh y bu feirw ac y claddwyd y personau canlynol yno—Edward Morris, o'r GJyn—Morris Iluglies, Brj-npenarth —JohnEdwards, Ffynonau—Nathanael Evans, Llanbrynmair — Mrs. Davies, Lawnt—Mary, gwraig John Tibbot, Ty'reapel— Elizabeth Lewis, merch Morrisa Margaret Lewis, Ystrad— Jolm Davies, bachgen David Davies, Tynyfawn- og; hefyd Mrs. E. Davies, ei briod, a'i fam Elizabeth Davies—John Richards, Tynyfawnog —Evan Ilughes, Llanfair—David Davies, ac Elinor ei wraig, ac Eìinor Lly warch, eu merch, oll o'r Cettddolau—Elizabeth Jones, merch ieuangaf Ilugh a Mary Jones, o'r Vrongoch —Mary Hughes, ac Ann Hughes, Brynpenarth William Junes, Rhiwgoch—Ann Whittington, Manavon—Evan, bachgen Wm. a Jane Jones, Byetake—Elizabeth Evans, mereh John ac Ann Evans—Robert Evans, llafodseller— Elizabeth Davies, merch l)avid Davies, Moedog—John Jones, Penarth—Sarah Maddocks—a Margaret Morris, o'r Glyn; ac efallai ainrai eraill, nad ydym yn awr yn alluog i'w cofio. Nid ydym yn gadael neb yn fwriadol. Dyna restr hirfaith o'n hen gyfeillion hoffus. Yr oedd Uawer o honynt yn Iien aelodau íiÿdd- lon; arwyddasant ein galwad yno gyntaf, a chydweithiasant yn egniol gyda ni er dwyn yn mlaen achosion pwysicaf ein gweinidogaeth yn llwyddiannus, a buont ífyddlon hyd angau. Cawsom y fraint o dderbyn eraill o honynt yn aelodau o'r eglwys, o'u haddysgu yn egwyddor- ion cyntaf Crist'nogaeth, ac o weled eu cynydá crefyddol nodedig mewn gras a rhinwedd. Yn eu plith yr oedd dau swyddog eglwysig, ac amrai famau a tha<lau yn Israel, a rhai pobl ieuainc a phlant gwir grefyddol. Credwn eu - bod oll yn waredigion yr Arglwydd, er nad oeddynt heb eu flfaeleddau. Bu yn dda genym. 13