Skip to main content

Cyf. 17, Rhif. 2. CHWEFEOR, 1856. Rhif. oix 194. HJgtüflrafFîjbûol. COFIANT MRS. MARY HAYCOCE, BEATEE MEADOW, PA. Y mae ysgrifenu byw-graffiadau yn hen arferiad yn y byd—yn hen arferiad a fu o ddir- fawr les i'r teulu dynol. Aml ydyw rhifedi y by w-graffwyr, ac amlach na hyny ydyw y byw- graffiadau. Dichon mai y blaenaf yn rhes y byw-graffiadau Saisonaeg ydyw cofiant yr an- farwol Philip Henry, a thebyg mai y"penaf yn mlith cofiautau y Cymry ydyw eiddo Hiraethog' i'r byth gofiadwy Ẅ. "Williams Wern. Ond yr unig rai perlfaith a feddwn ydyw eiddo yr Efengylwyr i Iesu Grist, ac eiddo Paul i gyfres o'r tadau yn Ileb. Pen. 11. Nid oes un o rinweddau teulu Iesu i gael eu hanghofio,—y maent yn nghadw i gyd yn y nef, a chan eu bod yn werth eu cofrestru a'u cadw yno, trueni eu gollwng i ebargufiant ar y ddnear. Gan hyny, Mr. Gol., wele yr ysgrifenydd yn cynyg, er eu croniclo yn y "Cenhadwe," ych- ydig o'r rhinweddau hyny a hynodai nodwedd- iad Mrs. Mary Haycock, er eu cadw a'u tros- glwyddo i'r oesau a ddel. Mary Haycock ydoedd ferch i Jonah ac Elinor Kees, Jeansville, Pa. Hi a anwyd yn Sirwi, swydd Fynwy, Rhag. 28, 1829. Ym- fudodd ei rhieni i'r wlad hon yn y flwyddyn 1837 pan nad oedd gwrthddrych ein sylw ond 8 mlwydd oed. Wedi eu dyfodiad i'r wlad hon' sefydlasant yn Beaver Meadow a'r cylchoedd, lle y pi eswyliant yn bresenol. Ar y cyntaf o fis Gorphenaf, 1853, unwyd Mary Rees mewn priodas â Mr. Thomas Haycock, dyn ieuanc o'r Tai Bach, swydd Forganwg, D. C. Yn ngauaf y flwyddyn ganlynol, 1854, cymerwyd Mrs. Haycocfc gan glefyd a ddaliodd ei afael ynddi er ymdrechion y meddygon gorau, nes llwyr ddifá ei nerth, fel ar y 7fed dydd'ò fis Mawrth, 1855, ehedodd ei rhan anfarwol o'i hen breswyl gan adael y byd helbulus a thrallodus hwn am fyd gwell a gogoneddusach. Wedi y crybwyll- ion uchod wele yn canlyn ychydig o hynodion ei bywyd. Edrychwn arni,— Tn ei meoyd. Yr oedd rhyw bethau ynddi er yn blentyn tra gwahanol i blant eraill. Bydd plant yn gyffredin yn ddiofal am bob peth ond ymgasglu at y twmpath chwareu a difyru eu hamser drosodd gyda y teganau. Ond am wrthddrych ein sylw glynu yn y tŷ y byddai hi—ni ddenid ei meddwl mewn modd }-n y byd at y teganau—ei gofal hi ydoedd am fod pob peth yn drefnus a tìiaclm yn y tŷ. Yr oedd mor anwyl a hoff o'i mam fel na welai ddim yn ormod un amser i'w wneyd er ei chynorth- wyo gyda gorchwylion y teulu. Yr oedd nlor ostyngedig ac ufudd i'w rhieni, fel na ddywedai un amser, na wna. Pan nad oedd Mary ^pnd plentyn ei hun yr oedd gymaint ei gofal a'i gofid am ei brodyr a'i chwiorydd ag yw y fam am ei huniganedig. Ni byddai raid i'w mam, pa le bynag y byddai, ofalu am y tŷ, y plant a'r oll o'r eiddo, ond eu hymddiried i ofal Mary fach. Yr oedd yn yr ystyr hon fel mam yn Avastad yn y teulu. Ei serch at, a'i iliynerwch dan foddion gras. Yr oedd er yn blentyn yn dra hoff o ganlyn ei rhieni i gyfarfodydd crefyddol, a phob araser byddai yn manwl sylwi ar yr hyn a glywai, a bron yn wastad byddai y Gair yn dylanwadu yn fawr ar ei meddwl, ac yn ei chlwyfo mor ddwfn, nes nad .oedd modd ei iachau, nes dyfod at y Meddyg a'r Balm sydd yn Sion. Yr oedd ei cbydwybod mor dyner fel yr oedd yn foddfa o ddagrau dan y Gair. Un noson pan yn dyfod adref o'r cyfarfod ac wedi ei thoddi gan wres nefolaidd y weinidogaeth, dywedai wrth ei mam y deuai hi gyda hi i'r society nesaf. "Di wnei," ebe ei mam. " Gwnaf," oedd yr ateb " gwnaf yn wir mi wnaf." " "Wel," ebe ei mam, "dyna y newydd goreu erioed, fy merch anwyl i,—y lle—y cyfeillion a'r gwaith goreu yw gwasanaethu Iesu Grist. Pan ddaeth nos y gyfeillach, yn ol ei phenderfyniad, aeth iddi. Nid hir y bu yno cyn i'r brodyr gael eu cyflawn foddhau ynddi, fel pechadur edifeiriol, wedi cwbl roddi ei hun i Dduw mewn Cyfryngwr. Yn ganlynol derbyniwyd hi yn aelod eglwysig yn yr eglwys Annibynol yn Beaver Meadow, gan y Parch. E. B. Evans, Pottsville, yn &wr o