Skip to main content

Cyf. 17, Rhif. 1. IONAWR, 1856. Ehif. oll 193. CYFARCHIAD AR DDECHREU Y FLWYDDYN 1856. Gymry yn America,—Ar ddechreu y fl wydd- yn newydd hon, peth naturiol a gweddus ydyw cofnodi yn ddiolchgar y trugareddau a dderbyn- iasom yn j flwyddyn sydd newydd derfynu. Arbedwyd ein bywyd, rhoddwyd i ni ein bara beunyddiol, cawsom iechyd, rhai o honom a adferwyd i iechyd ar ol ei golli, cynaliwyd eraill yn ddaionns dan g}rstuddiau, cadwyd ni rhag heintiau a'r cleddyf, rhag newyn a noethni, gwaredwyd ni o beryglon ar lawer .adeg, ie cawsom lawnder o drugareddau a chawsom gysuron fyrdd nas gallwn eu henwi yn rhag- luniaeth dyner ein Tad nefol. Cawsom efengyl a'i hordinhadau, cawsom gysuron crefydd, cawsom g\Tmelliadau i geisio Duw ac i obeithio yn Nghrist Iesu, a modd i gael Duw yn Dduw i ni, ac nid oes dim yn ddiau wedi bod yn eisiau o'i du ef gyda golwg ar neb o honom, na alîem orfoleddu ynddo fel ein Iliachawdwr, ac ym- lawenychu mewn rhag-ddysgwyliad o dded- wyddwch bythol, ar ol ymado â'r fuchedd hon. Oni ddylem gan hyny gymeryd cysur, moliannu enẅ ein Gwaredwr a'n Hachubydd, ac ymroddi i fyw iddo. Wrth edrych yn ol ar helyntion cyhoeddus y flwyddyn 185ö, y rhyfel yn y Dwyrain yn mron yn flaenaf peth a dyn sylw pawb. Bu y flwydd- yn yn un a nodir eto mewn hanesyddiaeth fel un dra hynod mewn cyflafan a thywallt gwaed. Miloedd lawer o feibion gwragedd a dorwyd ymaith gan y cleddyf a chan heintiau cysyllt- iedig â sefyllfa o ryfel. Llawer mam a thad, llawer chwaer a brawd, ydynt yn wylo ar ol rhai oedd anwyl ganddynt, ac fel Rahel ni fynant eu oysuro, am nad ydynt. Dysgwn gasau rhyfel a phleidio heddwch yn mhob gwlad. Dysged ein meibion ieuainc yn arbenig i feithrin yn eu mynwesau eu hunain egwydd- orion heddwch, a sefyll yn benderfynol yn erbyn cael eu cyflogi gan neb i fyned i'r maes i lofruddio eu cyd-ddynion. Gobeithiwn y bydd i olygfeydd gwaedlyd ac erohyll y Crimea adael yr argraff hon yn ddwfn ar feddyliau llawer- oedd. Cynhyrfus fu ein gwlad ninau (America) yn mhertbynas i achos caethiwed, Y caethfeistri ydynt yn myned yn fwy hyf a haerllug o hyd i bleidio eu hachos fel achos cyfiawn! Cystal fyddai dweyd mai cyfiawn yw anghyfiawnder, mai uniawn ywîladrala ac yspeilio, gan mai ys- peilio dyn a wneir o ffrwyth ei lafur, o'i hawl iddo ei hun ac o bob hawl sydd yn ei wahaniaethu oddiwrth anifail y maes. Cofiwn am Kansas a'n cyfeillion sydd yno yn yr enbydrwydd mwyaf am eu meddiannau a'u bywydau. Ymddygiad- au ein Llywodraethwyr yn yr achos hwn yn 1855 a wnant i fyny bennod yn hanesyddiaeth ein gwlad i'w chofio yn hir. Wrth edrych yn mlaen i ddadblygiadau y flwyddyn hon nis gwyddom pa beth i'w ddy- wedyd. Lled dywell yw yr awyrgylch tua'r Dwyrain. Gwneir rhyw awgrymiadau am gyfryngu a chyflafareddu; ond nid oes dim i'w ganfod ar hyny yn eglur iawn eto. Ymbiliwn ar Dad y trugareddau ar fed rhyw ddrysau newyddion,. yn nghanol y cynhwrf a'r terfysg, yn cael eu hagor, fel y byddo i oleuni efengyl dywynu ar diriogaethau eang Mahometaniaeth, Pabyddiaeth a Groegiaeth, yr hyn, hyderwn, sydd i raddau yn cymeryd lle eisoes. Nid i ysbryd rhyfela y bydd y diolch am hyn, ond i anfeidrol ras Duw yn peri i gynddaredd dyn ei foliannu ef ac yn attal gweddill cynddaredd. Pa dro a roddir ar achos rhyddid yn America y flwyddyn hon nid hawdd yw dweyd eto. Mae ein Senedd Wladwriaethol yn eistedd, a thestynau pwysig i'w dwyn ger bron. Mae y teimlad yn Kansas yn dyfnhau a sefyllfa y wlad yn myned yn fwy cynhyrfus o hyd. Wrth edrych o du y ddaear ar aragylchiadau pethau, mae yr olygfa yn eithaf digalonus. Ond pan edrychom i m'ewn i air y gwirionedd, a phan gofiom y bydd i Ethiopia estyn ei dwylaw yn brystir at Dduw, y bydd iddo ef gofio ei gyfam- od gyda golwg ar dywyll leoedd y ddaear sydd lawn o drigfanau trawsder, ac y llenwir yr holl ddàear â'i ogoniant ef,—talaethau y South fel' pob lle arall,—y mae gobaith a sicrwydd genym eto mai buddugoliaethu a wna egwyddor fawr Rhyddid, a phwy a wyr na roddir rhyw jb-