Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

I CENHADWR AMERICANAIDD. Oyf. 15, Rhif. 11. TACHWEDD, 1854. Rhif. oll 179. BstugraffiiòM. FAFASOR POWEL A'I AMSERAU. (Parhad o tu dal. 366.) HANES FFYDnLON o'l I>BYODDEFIADAU a'i GARCHARIADAÜ. Arnrywiol fu'r peryglon, cernodiau, gafaeliadau a charchariadau a ddyoddefodd wrth weinidog- aethu a dadleu yn acbos Crist a'r efengyl, yn gymaint ag y gellir dywedyd am dano mewu gwirionedd, megys y Ilefarodd yr Apostol am dauo ei hun, 2 Cor. 6: 4, &c, iddo ddangos ei hun yn mhob peth fel gweiuidog Duw. mewn amyu- edd mawr, mewn cystuddiau, mewn anghenion, mewn cyfyngderau, mewn gwialenodiau, mewn carcharau, mewn terfysgau, mewn poeaau, mewn gwyliadwriaethau, mewn ymprydiau; trwy barch ac amharch, trwy glod ac angblod, megys twyll- wyr, er hyny yn eirwir, 2 Cor. 11: 26, 27, &c. Mewn teithiau yn fynych, yn mheryglon Ilif- ddyfroedd, yn mheryglon Hadron, yn mheryglon gan ei geuedl ei hun, yu mheryglon yn y ddinas, yn mheryglon yn mhlith brodyr gau; mewn llafur a lludded, mewn newyn a syched, mewn anwyd a uoethni, &c. Yn gyntaf am y peryglon a'r dyrnodiau a ddy- oddefodd.—Amrywiol fu'r rhuthriadau, y dyrnod- iau, a chyullwynion am ei fywyd a ddygwyddodd iddo yn ei weiuidogaeth, fel y mae yu amlwg wrth yr hyn a ganlyn. Uuwaith fe'i curwyd yu greulon gan ddau gar iddo yn y Cnoclas yn sir Faesyfed, am eu ceryddu o bechod; fel y darfu i'w ben a rhanau eraill o'i gorph chwyddo a duo yn greulon, cafodd ergyd gan un o honynt â llawffon o bren afallen sûr, gyda nerth mawr, ac eto, er rhyfeddod, ni theiml- odd fwy o hono na phe buasai plentyn yn ei daro à brwynen. Bryd arall cafodd ei guro yn dost yn sir Feir- ionydd. Amser arall, darfu i gigydd gynllwyn am dano mewn ffordd gul yn y Waiufawr, i gymeryd ym- aith ei einioes, ac a ruthrodd arno; oud Duw a'i hachubodd yn rhyfeddol. Ar amser arall, pedwar dyn a wnaethaut lŵ y lladdeut ef, ond Duw a'i cadwodd yn rhyfeddol, ac yn y cyfarfod lle'r oeddynt yn amcauu gwneuthur y imleindra, un o honynt a argyhoeddwyd. 35 Ehyw bryd arall, daeth un i'r lle yr oedd yn pregethu yn y Dref Newydd gyda llawn fwriad i'w ladd, ond a argyhoeddwyd ac a ddychwelwyd trwy'r gair, ac a gyfaddefodd ei amcau, ac a ym- biliodd bardwn am ei ddrygioui. Amser arall, un o'r Trallwm a wnaeth Ivv i'w ladd ef, ac a fwriadodd wneuthur eì amcan gwaed- Iyd yu Guilsffield, lle yr oedd efe yn pregethu, ac yntef a gafodd ei droedigaeth trwy nerthol weith- rediad y gair. Bryd arall, daeth menyw â chylleìl i'w ladd fel yr oedd yn pregethu yn y farchnad, yn Machyn- lleth, ond a ragflaenwyd. Bryd aiall, fel yr oedd yn pregethu yn Dol- gelle, yn sir Feirionydd, fe ruthrwyd arno gan amryw o segurwyr afreolus, y rhai a osodasant arno ef a lîawer o'r gynulleidfa â cherig, cleddyL au, tìÿn, a phastyuau, ond diangodd ymaith yn rhyfeddol oddi rhwng eu dwylaw. Yn mheu ychydig amser yu yr un dref, cafodd ei wysio a'i ryddhau yn y Sesiwn gyhoeddus am gyfodi terfysg, a thra yr oedd yu sefyll o flaeu y frawdle cyflogwyd crwthwr drygionus i'w ladd, yr hwn âg arf yn ddirgel a amcauodd ei fwriad gwaedlyd ddwy waith, eithr a ragflaenwyd. Amser arall, wrth fyned i bregethu i fouwent Mallwyd, amryw ddynion afreolus a ruthrasant arno ef a'i gyfeilliou, lle cafodd ei guro yn dost, a dryllio ei ben. Darfu i filwr creulon fel yr oedd yn edrych trwy ffenestr y carchar yn Nhrefaldwyn, ollwng ergyd ato ef, eithr Duw a'i hachubodd. Pan gymerwyd sir Fon, yr oedd yn nghanol y gelynion, a rhuthrwyd arno yn neillduol gan un a'i hadwaeuai, a chafodd ei glwyfo yn ei ben, ei law, ac yn nghylch ei arffed, ond Duw a'i gwar- edodd fel o'r blaen. Pedair gwaith y cafodd ei waredu o ddwylaw lladron, ac amrywiol o weithiau cafodd ei amddi- ffyn yn rhyfeddol oddiwrth beryglon mewn llif- ddyfroedd yn Lloegr a Chymru, a'i achub yn, rhyfeddol mewn saith godwm enbydus oddiar ei geffyl wrth ymdeithio yn ngwasanaeth yr Arg- lwydd. Am ei amrywiol garchariadau.—1. Y cyntaf o'r fath hyny a gyfarfu âg ef oedd yn sir Frycheiniog, o amgylch y tìwyddyn 1640, pan oedd yn pregetha mewu tŷ, o gwmpas 10 o'r gloch o'r nos; cymer- wyd ef i fyny yn Hghyda 50 neu 60 o wrandawyr, gan bymtheg nea un-ar-bymtheg o ddynion afre-