Skip to main content

Y CENHADWE AMEEICÁMIDD Ctf. 15, Rhif. 1. IONAWR, 1854. Rhif. oll 1C9. CYFARCHIAD AR DDECHREU Y PLWYDDYN 1854. Ein hoff genfdl ys Amehica,—Gallwn ddweyd un ac oll ar ddechreu y flwyddyn new- ydd hon, " Wedi cael help gan Dduw yr ydym yn aros hyd yr awrhon." Wrth edrych yn ol ar y flwyddynsydd newydd derfynu, ymddeng- ys yn fèr iawn,—ei dyddiau, ei horiau a'i myn- ydau a aetbant heibìo fel hûn ac megys gwyl- iadwriaeth nôs. Cawsom lawer o drugareddau o law ein tirion Iôr, mewn estyniad bywyd, niewn iechyd, mewn gwaredigaeth.au, îe mewn cysuron a gweinyddiadau o ddaioni nas gellir eu rhifo. Cawsom lawer o freintiau gwerth- fawr, am ba rai bydd cyfrif manwl i'w roddi eto ddydd a ddaw. Gellir dweyd yn briodol yn ngeiriau y prophwyd, " Trugareddau yr Arglwydd yw na ddarfu am danom ni; o her- wydd ni phalla ei dosturiaethau ef. Bob bore y deuant o newydd; mawr yw dy ffyddlondeb." Llawer o'n cenedl a ddaethant drosodd o an- wyl wlad ein tadau yn nghorph y flwyddyn, er nad cymaint a rhai blynyddoedd o'r blaen ; a rhai a fudasant ac a newidiasant eu preswylfa yn y wlad fawr hon. Ac yn mhob symudiad o'r fath yr oedd trallodion a siomedigaethau, ond odid, iV cael, yn gystal a thrugareddau i'w mwynhau. Cofier y dyfodiaid newyddion, mewn cydymdeimlad, sirioldeb a chymhortb, yn mhob Ue. Mewn achosion crefyddol a moesol hyderwn nad ydym fel cenedl yn y wlad hon wedi bod yn gwbl ddigynydd yn y flwyddyn 1858. Er na bu diwygiadau grymus yn ein plith, bu yr efengyl, ni a hyderwn, yn air iachawdwriaeth ì rai y flwyddyn hon,—mewn manau bu yr aw- elon grasol yn lled rymus. Mae achos sobr- wydd ac achos y caethwas yn enill i raddau ar feddyliau ein cenedl, a hyny yn enwedigol yn y talaethau gorllewinol. Gweithredwyd yn ardderchog dros y Gymdeithas Fiblaidd, yn en- wedig mewn rhanau o Ohio y flwyddyn hon, ac y mae yr achos mawr hwn yn cael ei anwylu yn mhob sefydlfa o eiddo ein cenedl trwy'r wlad. Yr ysgol Sabbothol a anwylir ac a gol- «*** yn fawr gan ein cenedl yn America. Mewn manau mae cymdeithasan lleDyddol ; wedi eu fîurfìo a^u cyfarfodydd yn cael eu cyn- ì al yn rheolaidd, a chylchrediad y eyhoeddiadau : Cymreig sydd yn lled helaeth. Eto yn yr holl : bethau a enwyd yr ydym yn fyr yn ddiau o'r hyn a ddylem ac a allem fod, ond bod yn ffydd- lon yn ol y breintîau yr ydyra yn eu mwynhau. Pa bryd y daw achos y cenadon yn gyffeîyb ì sylw ag acbos y Bibl ? Pa bryd y daw ein ccn- edl i deimlo yn briodol dros Gymdeithas y Traethodau, yr hon syud ar y maes er yn foreu : a'i dylanwad mewn gwnend daioni yn ëang yn : gartrefol a thramor ? A pha bryd y dechreuir teimlo a gweithredu dros ein brodyr ieuainc : sydd yn Hafurio am addysg, yn rhagbaroto* : awl i waith mawr gweinidogaeth yr efengyl ? Bydded i'r pethau hyn ddyfod i fyny yn fwy : yn wrthrychau serch ac ymdrech y cynnlleidfa- oedd }-n y fiwyddyn newydd, yr hon sydd yn ymagor arnom mewn llawnder o gysuron a breintiau. G}-da golwg ar bethau gwladol a chyffredin- ol, nid llawer o ddigwyddiadau o bwys a gy- mcrasant le yn y flwyddyn 1853. Bu y flwydd- yn yn un o ddysgwyliadau pryderus yn fwy nag o weithrediadau mawrion a chyffrous. Eto diamheu i rai pethau dori allan yn y flwyddyn hon yn y byd cyhoeddus ag a ddygant effeith- iau o bwys ar dynged y byd i oesoedd dyfodol. Yn eu plith gellir enwi y datganiad o ryfel gan ymerawdwr y Tyrciaid yn erbyn y Rwsiaid. Yma agorwyd argae mewn cronfa o deimlad yn Ewrop na wyddis beth fydd y canlyniadau. Beth fydd yr effeithiau ar Twrci a Rwsia eu hunain, a pha beth yn y canlyniad ar alluoedd tywysogaidd a gorthrymus eraill ac ar achos rhyddid yn gyffredinol yn Ewrop, amser yn unig a'i hesbonia ac a'i datguddia. Rhyddhad yr Hungariad, Martin Koszta, o grafangau treis- iol y swyddwyr Awstriaidd yn Smyrna gan y dewr Ingrabam, â'r gymeradwyaeth a roddir i hyny gan yr awdurdodau Americanaidd a eff- eithia yn ddymunol er calondid i bleidwyr rhyddid dynoliaeth yn gyffredinol. Pender- fyniad Tŷ yr Arglwyddi yn Lloegr ar y 12fed o Awst diweddaf, yn flafriol i olygiadau yr ymneillduwyr ar y " Dreth eglwys," a derfyna