Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

i mmmwiì «««!■ Cyf. 10, Rhif. 11.] TACHWEDD, 1849. [Rhif. oll, 119. BENJAMIN FRANKLIN. Y rliai caulynol ydynt yn mlilith diarhebion di- hafal y Dr. Franldin, y rhai a ymddangosent yn ci " Poor Richard's Almanacìi" rhwng y blynydd- oedd 1733 a 1754. Hyn yn unig a roddir y tro hwn o waith y gŵr enwog ag y cant'yddir ei ddarlun uchod.—Gol. Cyll rhai eu cof wrth astudio i wybod Uawer, ond pwy a gyll ei gof wrth astudio i fod yn dda. A gwymp mewn cariad âg ef ei hun, ni flinh* gan gydymgeiswyr. Gyr dy alwedigaeth yn mlaen, neu dy alwedig- aeth a'th yra di. Gwylia rbag yr ychydig draul, canys agen fech- an a sudda long fawr. Wns o synwyr a brynir sydd werth pwys a ddysgir. Yr hyn sydd yn myned i gynal uu pechod a ddygai i fyny ddau blentyn. Ni effeithia cyfnewidiad amgylchiadau ar y dyn doeth ddim mwy niwed, nag' yr cffeithia cyfnew-. idiad y Ueuad. Cyfaill gau a cbysgod ni chaulynant ond tra thy- wyna yr haul. Arddwch yn ddwfn tra y mae y diog yn'cysgu, ac yna chwi a gcwch ŷd i gadw a gwerthu. Os na fynwch gael eich annghofio mor fuan aCT y byddwch feirw, un ai ysgrifenwch ryw beth gwerth ei ddarllen, neu ynte gwnewch ryw beth gwerth ei ysgrifenu. Ni sych dim yn gynt na deigryn. Dyn annoeth yw a wna ei ddoctor yn etifedd iddo. Ni welodd chwant bwyd erioed fara gwael. Siaradwyr mawr, gweithwyr bach. Y ffol a wna wleddoedd, a'r doeth a'u bwyty. Y mae ychydig gau y tlawd, dim gan y cardot- wyr, gonnod gan y cyfoethog, digon gan neb. Os mynech gadw eich cyfrinach rhag gelyn, na fynegwch ef i gyfaill. Y mae gan hen blant eu teganau (playtìángs)