Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ÜIWMH. Cyf. 10, Rhif. 6.] MEHEFIN, 1849. [Rhif. oll, 114. BgtögrctffìrôM. WILLIAM EDWARDS, Y PEIRIANNYDD CYMREIG. Ganwyd William Edwards, y clodfawr beîriann- ydd Cymreig, yn 1749, yn mhlwyf Eglwysilan, sir Forganwg. Darfu iddo golli ei dad, yr hwu oedd amaethwr, pan nad oedd ond dwy flwydd oed ; ond ei fam a barhaodd i ddal y fferm, ac yn y modd hyn galluogwyd hi i ddwyn i fyny ei theulu, yn cynwys dau o feibion eraill a merch, beblaw William, yr hwn oedd yr ieuengaf. Ond yn fuan ei meibion eraill oeddynt ddigon hen i gymeryd y rhan fwyaf o'i siars oddiar ei dwylaw. Yn y cyfamscr addysgwyd William, fel yr oedd yn tyfu i fyny, i ddarllen ac ysgrifenu Cymraeg; a hyn oedd yr unig ddysgeidiaeth ag yr ymddengys iddo ei derbyn. Pan tua phymtheg oed, y dechreuodd gyntaf ymarferu â'r gwaith o adgyweirio y clodd- iau ceryg ar y fferm, ac yn y saernì'aeth meini isel hwn cyrhaeddodd yn fuan ddeheurwydd anarferol. Y gwaith rhagorol a wnaeth, a'r modd cyfiym yr oedd yn ei gyfiawni, o'r diwedd a dynodd sylw y ffermwyr yn yr ardal; a chynghorasant ei frodyr i'w gadw ef wrth y gwaith hwnw, ac i adael iddo arfer ei fedrusrwydd, pan fyddai eisiau, ar fferm- ydd eraill yn gystal à'r eiddynt hwy. Ar ol hyn cafodd waith o hyd am gryn amser, a dodai ei gyflog yn rheolaidd yn nhrysorfa gyffredin y teulu. Hyd yn hyn, yr unig adeilad-waith a arferasai weithio ynddo, neu yn wir a welsai yn cael ei ddwyn yn mlaen, ydoedd gyda cheryg yn unig heb gymrwd. Ond o'r diwedd dygwyddodd i ryw seiri meini ddyfod i'r plwyf i godi penty (shed) i bedoli ceffylau, gerllaw siop gôf. Craffodd Wil- liam ar weithre^adau y seiri hyn gyd a'r manyl- rwydd dyfalaf, ac arferai sefyll yn eu hymyl am oriau tra yr oeddynt wrth eu gwaith, gan gymeryd sylw o bob symudiad a wnaent. Un peth a'i tar- awodd ar unwaith oedd eu bod yn defnyddio morthwyl o wahanol ffurf irr un ag y bu ef yn arfer defnyddio; a chan weled fod hwnw yn rìiagori, efe a gafodd un yn uniongyrchol o'r un fath iddo ei hun. Canfyddodd y gallai gyda hwn adeiladu ei waliau yn llawer iawn cynt yu gystal ag yn brydferthach nag yr arferasai eu gwneud. Ond nid hir y bu wedi iddo gael y cyfleusdra am 11 y tro cyntaf yn ei fywyd, o weled y dull yr adeil- edid tai, cyn iddo gymeryd arno y gorchwyl o adeiladu un ei hunan. Gweithdŷ ydoedd i gy- mydog; a chyflawnodd y gorchwyl yn y fath ddull ag a enillodd iddo fawr gymeradwyaeth. Yn dra buan wedi hyn cytunwyd âg ef i adeiladu melin, drwy yr hyn y eynyddodd ei enwogrwydd yn fwy fyth fel gweithiwr cyfarwydd a dyfeisgar. Dywed Mr. Malkin (i waith yr hwn ar Olygfeydd Deheu- dir Cymru &c. yr ydym yn ddyledus am y byr hanes hwn) mai wrth adeiladu y felin hon y daeth yn adnabyddus o egwyddor y bwa. Gwedi cyflawni y gorchestwaith hwn cyfrifid Edwards y gweithiwr goraf yn y rhan hwnw o'r wlad, a chan yr uchel berchid ef am ei onestrwydd a'i ffyddlondeb i'w ymrwymiadau, yn gvstal ag am ei fedrusrwydd, cafodd waith fel adeiladydd cyffredin cymaiut ag y gallai gyflawni. Ond yn ei 27ain nilwydd, tueddwyd ef i ymaflyd mewn anturiaeth llawer mwy auhawdd a phwysig na dim yr ymgynygiodd aiiio hyd yn hyn. Trwy ei blwyf geuedigol Ue yr oedd eto yn par- hau i fyw, yr oedd yr afon a elwir y Taf yn rhedeg, yr hon gan ddylyn rhedfa ddeheuol a ym- ddylifa o'r diwedd i fôr-gamlas (estuary) y Sevem. Meddyliwyd am daflu pont dros yr afon hon mewn man pennodol yn mhlwyf Eglwysilan lle y croesai linell ffordd gynlluniedig ; ond yn erbyn y bwriad hwn cyfodai auhawsderau o natur led fygythiol, o herwydd dirfawr led y dwfr a'r mynych orlifoedd yr oedd yn agored iddynt. Mynyddoedd yn or- chuddiedig â choedwigoedd oeddynt yn ymgodi o bob glan i'r afon ; y rhai yn gyntaf a sugn-dynent atynt eu hunain bob cwmwl dynesiadol, ac wedi hyny a arllwysent eu cynwysiad cynulledig yn llifogydd i'r afon. Ond er y cwbl, cymerodd Ed- wards y gorchwyl mewn Haw o adeiladu y bont gynlluniedig, er mai hwn oedd y gwaith cyntaf o'r fath ag y bu erioed yn ceisio ei wneud. Felly yn y fl. 1746, ymroddodd i'r gwaith, ac mewn iawn bryd gorphenodd bont dra ysgafn a phrydferth o dri bwa; ac er mai gwaith celfyddwr hnnan- addysgiadol cartrefol ydoedd, cydnabyddwyd ei bod yn rhagori ar ddim o'i bath yn Nghymru. Hyd yn awr bu ei lwyddiant mor berff'aith ag y gallesid ddymnno. Ond yr oedd ei anturiaeth eto yn mhell o gael ei orphen. Yr oedd wedi rhoddi ei hunan, a'i gyfeillion hefyd drosto, fachniaeth y buasai y bont yn sefyll eaith mlynedd; ac am y