Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYLCHGRAWN YB TSfiOL CYHOEDDIAD WYTHNOSOL, AT WASANÁETH YR YSGOL SABBOTHOL A CHREFYDD. Rhif 12.] MAI 2IAIN, 1875. [Pris Dimai. CTNWTSIAD. TCDAL Crynhodeb .................. ........ 1 Gwaredu y Gwehilion—Fy Nghyfeillion Newydd ......... 2 Teulu un Aünod ......... ......... ......... 3 Ariandy Da ...... ......... ......... ........ 3 Cardotyn Gonest ......... ......... ......... 3 Ffydd ......... ......... ......... ......... 3 Penderfyniad yn Amod Llwyddiant ......... ......... 4 Maes llafur wythnosol ......... ......... ......... 5 Gemau Doethineb .,....... ......... ......... 5 Tr Ysgol Sabbothol a Ohrefyddwyr......... ......... 6 Ton :—•'Nis rhoddwn fyny'r Beibl " ......... ......... 7 Hysbysiadau ............ ......... ......... 8 CETNHODEB. Cymerodd digwyddiad tra hynod le yr wythnos ddiweddaf yn angladd y diweddar Barwn Pigott, yn Sherfield. Y diwrnod cyn y cynhebrwng, dadganodd dau o'i feibion, y rhai nad ydynt ael- odau o'r Eglwys, eu gwrthdystiad i'r gwasanaeth angladdol gael ei ddarllen uwchben gweddillion eu tad. Modd bynag, fel y saif y gyfraith yn bresenol, y mae hawl y clerigwr i ddarllen y gwasanaeth angladdol, ac i wrthod caniatau yr un ddefod arall mewn tir cysegredig, yn ddiamheuol. Yn unol â hyn, cyfarfyddodd y Periglor yr ang- ladd wrth y porth, a dechreuodd fyned yn mlaen gyda'r gwasanaeth, pan y rhwystrwyd ef gan dwrf a bloeddiadau—rhai o'r galarwyr yn galw am ei atal, ac eraill am iddo fyned yn mlaen. Diwedd yr olygfa anweddaidd hon oedd, i'r Clerigwr gau ei lyfr ac ymneillduo, a'r canlyniad fydd iddo gymeryd cyngaws yn erbyn y ddau fab am ei atal, tra yn cyflawni ei ddyledswydd. Y mae Mesur Claddfeydd Osborne Morgan yn cynwys darpar- iadau i symud ymaith achosion y fath ddigwydd- iadau, ac nid oes genym ond gobeithio y bydd yr ychydig fwyafrif oedd yn ei erbyn eleni wedi troi yn fwyafrif o'i blaid cyn pen ychydig amser. Yn un o gyfarfodydd y Mri. Moody a Sankey yn Llundain yr wythnos ddiweddaf, cafwyd ytndrin- iaeth ddyddorol ac addysgiadol ar yr Ysgol Sab— bothol, yn enwedig yn ei chysylltiad a'r ieuenctyd. Tueddir rhai i amheu y gall fod dim dyfnder arosol yn argyhoeddiadau plant, ond adroddwyd yno- amryw enghreifftiau yn profi i luaws dderbyn ar— graffiadau pan yn aelodau ieuainc o'r Ysgol Sab- bothol a lynasant wrthynt ar hyd eu hoes. Ac y mae yn ngallu plant i wneyd mwy dros deyrnas y Gwaredwr nag y mae'r mwyafrif o honom yn ei feddwl. Gwyn fyd na eheid rhai dynion yn mhob ardal i ymroddi o ddifrif i weithio gyda'r plant, ac i'w gosod ar y ffordd i fod yn weithgar a llafurus yn ngwinllan eu Harglwydd. Gan fod y Pab Pius IX. wedi cyhoeddi " Jiwbili fawr 1875," cafodd ei hysbysu yn ffurfìol yn holl Eglwysi Pabyddol y deyrnas hon. Rhyw fath o ddynwarediad o'r hen Juwbili Hebreig ydyw Cyhoeddwyd y gyntaf gan Boniface VIII., yn y