Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYLCHGRAWN VT> _L _r\i CYHOEDDIAD WYTHNOSOL, ÂT WÀSANÀETH YR YSGOL SÀBBOTHOL À CHREFYDD. Rhie 7.] EBRILL ióeg, 1875. [Pris Dimai. CYNWYSIAD. TUDAL Crjnhode'b ......... ......... ......... 1 Gwaredu y Gwehilioii— Sanderson ac Alice Bach......... 2 ......... 4 ......... 5 Cwestiynau ysgrytliyrol—Gwobrwýedig ... ......... 5 ......... 5 ......... 6 ......... 6 ......... 7 ......... 7 ......... 8 CEYNHODEB. Diamiieu fod llawer o'n darllenwyr hynaf yn dra adnabyddus agenwWilliam Howitt o Nottingham. Ysgrifenodd amryw lyfrau o gryn fri, ac yn eu plith " Hanes yr Cffeiriadaeth" (Babaidd), yr hwn a dynodd sylw mawr iawn. Ychydig fisoedd yn ol, aeth Mr. Iíowitt a'i wraig drosodd i Rufain, i gael golwg ar y Babaeth yn ei chartref, ac y mae yn awr yn fwy argyhoeddedig o'i dyhirwch nag erioed. Gwelodd yr offeiriaid yn y wlad yn cipio y Beiblau o ddwylaw y Beibl-gludwyr gan eu sathru yn y baw, ac nid anfynych y ceir hwynt mewn lleoedd gwledig yn gorchymyn casglu yr holl JFeiblau mewn cymydogaeth, a gwneyd coelcerth o honynt. Mae yr un ysbryd erledigaethus yn erbyn Protestaniaid yn parhau, ond fod y gallu wedi ei gyfyngu. Oynnaliwyd cyfarfod i blant gan Mr. Moody yn y Neuadd Amaethyddol yr wythnos ddiweddaf, ac yr oedd yr olýgfa yn un o'r rhai mwyaf effeithiol a welwyd erioed. Barnir fod o 3 a haner i 4 mil o blant yn bresenol, yn cynnrychioli 57 o ysgolion a sefydliadau elusengar, megys Cartref yr Amddi- faid, y C'offion, a'r Deillion, &c. Wedi i'r plant ganu " Ilold tìie Foìt," gyda gafael neillduol, ac j'r Dr. M'Auslane weddio, gofynodd Mr. Moody iddynt, " A ydyw Duw yn eich caru P" " Ydyw, syr," oedd yr ateb unllais. " Pa fodd y gwyddoch fod Duw yn eich caru ?" " Am ei fod wedi anfon ei Fab i'r byd i farw trosom." Yna cododd yr holl gynulleidfa, ỳn cynwys y mamau, ac eraill, oedd yn jr orielau, a chanasant, " Mor ddedwydd ydwyf fod Iesu 'n fy ngharu." Wedi eu holi, ac adrodd amryw chwedíeuon tarawiadol wrtbynt, dywedodd Mr. Moody y pregefchai iddynt yn nghylch y "galon," ac yr oeddynt i chwilio am adnod yn dest>n iddo. Ar ol dyfynu bron bob adnod yn y Beibl gyda'r gair " calon " ynddi, dywedai gen- ethod y sefydliad er diwygio plant drwg, " O'r galon y mae pob meddyliau drwg yn dyfod.'' " Dyua hi," meddai Mr. Mood}'', gan edrych arnynt. Yna apeliodd gyda difrifwch ar iddynt roddi eu calonau bychain i'r Iesu, ac yn nghanol yr anerchiad canodd y bechgyn a'r genethod benill bob yn ail o'r emyn " Dowch at y Ceidwad. £"r oedd yn gyfarfod nad anghofir byth gan y plant.