Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYLCHGRAWN YR CYHOEDDIAD WYTHNOSOL, AT WASANAETH YR YSGOL SABBOTHOL A CHREFYDD. Rhif s.] EBRILL 21L, 1875. [Pris Dimai. CYNWYSIAD. "Pa fodd y Darlleni?" ......... Gwaredu y Gwehilion ......... Maes llafur wythnosol ......... Mri. Moody a Sankey, gyda Darlun TüDAL ... 1 ... 2 .. 4 ... 5 Gohebiaethau-.—Yr Ysgol Sabbothol a Chrefyddwyr ...... 6 At Olygwyr 'Cylchgrawn yr Ysgol Sabbothol.'... 7 Troedigaeth Hynod ......... ....................... 7 Dirwest—Dirwest a'r Temlwyr Da ......... ......... 7 Hysbysiadau ...... ......... ......... ......... 8 "PA FODD Y DARLLENI?" I ddarllen i fuddioldeb, rbaid rboddi y sylw yn gyflawn i'r byn a ddarllenir. " Sylw sydd yn gwneyd athrylitb," meddai un; y mae pob dysg- ■eidiaeth, dychymyg, a gwybodaetb yn ymddibynu arno. Heb sylw manwl, nid yw pob ymyryd â llyfrau yn ddim amgcn na gollwng j piser i'r flynon, a'i dynu allan yn wag. Y mae yn rhaid gosod ei droed mewn gefyn i'w ddal yn sefydlog gyda'i fater. Y mae yn rhaid defnyddio llyfrau gydag ymroad diwrthdro, hyd nes y teimlir y deall a'r galon yn gloewi ac yn gwresogi o dan ddylan- wad y pwnc; heb byny, iiis gall y meddwl fod mewn tymer ddigon aeddfed ac ystwyth i dderbyn tirgrafF ddofn ac arosol 0 hono, mwy nag y gall yr aur dderbyn argraff o ddelw ac arwyddair y llyw- odraeth nes y'i gwresogir gan boethder y íFwrnais. Y mae yn ofynol i bob awdwr ailu tywallt ei galon i'w ysgrifau, ac y mae yr un mor ofynol i'r darllen- ydd, o'r tu arall, i allu tywallt ei gaìon yntnu i gyfarfod â cbalon ei awdwr, nes y bydd y naill yn 3'mdreiddio drwy y llall. Oymaint 0 wir les a allwn dderbyn oddiwrth bob darlle.niad ydyw cymaint ag a er^-s o'i argraff a'i ôl ar y meddwl; y mae yn ofynol i ysbryd y llyfr gael ei ddistyllio, a hyny yii annibynol ar bob geiriau, i feddwl ac ysbryd y darllenydd. Rbaid wrth ymdrech a dyfalbarhad i gyrbaedd byn. Ymdrech ydyw prif amod llwyddiant i ddyn. " Onid ymdrech un, ni choronir ef," mewn un modd. Rhaid gwaeddi ar ol gwybodaeth, a chodi y llef am ddeall. Y mae tlodi meddyliol yn rhwym o ddyfod yn etifeddiaeth gyfiawn a theg i'r ysbryd diyni—dyna ei hetifedd cyfreithlon ; a phwj' byth gai^ai y drafferth ogeisio ei henill na'i thrawsfeddiann oddiarno ? " Hyd oni ddelwyf, gl)rn wrth ddarllen," meddai Paul wrth Timotheus. Y mae yn rhaid wrth y gras o lynu cyn y gellir disgwyl mynediad i baradwys gwybodaeth, oblegyd y toafe pob gwybodaeth ag sydd yn werth i'w chodi oddiar lawr wedi ei ham- gylchynu â'r byn a ofyna am lafur a dyfalbarhad i ddyfod o hyd iddi—trwy gwrs o ymdreclí parhaus y gall y meddwl ei meistroli. Nid oes un gwir- ionedd mawr yn yrnddatguddio i'r astudiwr ar unwaith yn yr oll o hono. Y mae gwirionedd felly fel dinas yn llawn o heolydd a phalasau, ac y mae yn ofynol myned ar hyd ei hystrj'doedd ìawer gwaith cyn dyfod yn gwbl gyfarwydd ynddynt. Gall yr 3-mdeithydd mwyaf' brysiog goíìo ac adrodd