Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYLCHGRAWN I s GQ o3 o. YR f=* P3 TSGOL SABBOTHOL, CYHOEDDIAD WYTHNOSOL, AT WASANAETH YR YSGOL SABBOTHOL A CHREFYDD. Rhif 3.] MAWRTH 19EG, 1875. [PRIS DlMAI. CYNWYSIAD. TUDAI. .. 1 .. 2 .. 3 Mri. Moody a Sanltey yn Llundain—Ei Ddull o Bregethu. Llais y Wasg Seisnig ......... ......... ....... Gwaredu y Gwehilion ......... ......... ....... Maes Uafur wythnosol ......... ......... ......... 4 Nodion Ysgrytbyrol ......... ......... ......... 6 Y Llyfr Argraphedig cyntaf,,, ......... ......... 5 Gohebiaethau—Meithrin y Talentau Cartrefol ......... 6 Ton:—Y Bywyd-fad (allan o Donau Mr. Sankey) ......... Ö eíaddedigaeth y Parch. J. Evans (I. D. Ffraid) ......... 7. Dirwest—Y Rhyfel Whiskey... ......... ......... 7 Hysbysiadau......... ......... ......... 8 Mri MOODY A SANKEY YN LLUNDAIN. Cynnaliwtd gwasanaeth rhagbarotoawl, o dan lywyddiaeth Arglwydd Radstock, yn Exeter Hall, boreu dydd Mawrth, y Ofed cyfisol, ac yr oedd y gynulleìdfa yn un dra lluosog pan ystyrir mor foreu ydoedd, ac y gwyddid yn mlaen llaw na byddai Mr. Moody na Mr. Sankey yn bresenol. Anerchwyd y cyfarfod yn wresog gan y Parch. Mr. Chapman, o'r Lock Hospital. Yr oedd y platfform wedi ei lenwi gan weinidogion o bob enwad ac eraill, yn mysg y rbai yr oedd Arglwydd Cavan, yr Anrhydeddus Cowper Templs, A.S.; Mr. S. Morley, A.S.; y Parch. Newman Hall, &c. Gweddiodd amryw bersonau o ganol y ISÍeuadd, yn nghyd a'r rhai oedd ar y platfform, a chanwyd amryw o Emynau Mr. Sankey gydag effaith neill- duol yn ystod y cyfarfod. Am haner awr wedi saith o'r gloch yn yr hwyr, cynnaliwyd cyfarfod arall yn y Neuadd Amaeth- yddol, pryd yr oedd Mri. Moody a Sankey yn bresenol- Y mae yr adeilad hwn yn un mawr anferthol, digon i gynnwys o un mil ar bymtheg i ddeunaw mil o bobl, ónd yr oedd yn rhy fychan i gynnwys y rbai a geisient fyned i mewn y noswaith hon, a gorfodwyd cannoedd i droi ymaith. Ar ol rhoddi Salm aMan i'w chanu, a galw ar y Parch. Mr. Billing i weddio, cymerodd Mr. Moody ei destyn oddiar 1 Cor. i. 17—31, ac er mwyn dangos EI DDULIi O BEEGETHU, rhoddwn yma fras-nodiad o'i bregeth. Y gwir- ionedd a geisiai gymhell i ystyriaeth oedd, Fod "ffordd Duw o weithio yn wahanol i ffordd dyn," a'i fod yn dewis offerynau a ymddangosent i ddyn- ion yn rhai tVa hynod, ac weithiau yn rhai ynfyd. Dywedai mai y peth aofnai fwyaf wrth ymaflyd yn y gwaith hwn yn Llundain, oedd i ddynion fyned i ymorphwys ar fraich o gnawd, ac ar ddylanwad " cyfarfodydd mawrion," a throi eu golwg oddiwrth Dduw. " Nid oes yma efengyl newydd," meddai; ond yr hen ystori. Y mae'r byd haddywyn rhedeg yn barhaus ar ol rhywbeth newydd; ond os ydych yn dyfod yma gan ddisgwyl newydd-deb, cewch eich siomi. Yr un ydyw ein cenadwri ni ag eiddo y gweinidogion hyn—ac niewn gwendid y mae gyda ninau hefyd; oblegyd y mae cannoedd o ddynion yn Llundain fedrant bregethu yn well nag y medrwn ni. Y peth sydd arnom ni eisieu ydyw edrych draw oddiwrth ddyn a chyfeirio ein golwg