Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y PERL. Rhiftn 72. RHAGFYR, 1905. Cyf. VI. PA'M 'RWY'N MYN'D I'R EGLWYS? DEUDDEG oedd hoff rif Richard Roberfcs. Deuddeg buwch gadwai, deuddeg mochyn, deuddeg iar. Ceisiodd unwaith fagu twrcis ; dododd deuddeg wy dan yr iar ; un ar ddeg ddeorodd, agwerthodd hwy dranoeth. Ae yr oedd ganddo ddeuddeg o blant. ' Mae rhywbeth yn y rhif deuddeg,' meddai yn wastad ; ' trowch i'r Beibl; deuddeg patriarch, deuddeg Apostol, deuddeg porth, deuddeg perl, deuddeg ffrwyth, deuddeg sail, deuddeg erthygl yn y Credo, a deuddeg basgedaid o weddill. Ydych chwi yn meddwl y buasai pob cenedl, hen a diweddar, wedi cytreifio y misoedd fel y maent, rhai mwy a rhai llai, yn lle 13 yr un hyd, oni b'ai fod pwys yn y rhif deuddeg 1 ' A byddai ganddo ddeuddeg rheswm am bobpeth. 4 Taid,' meddai Ifor wrtho un diwrnod, ' mae'r plant yu gofyn i mi pa'm 'wy'n myn'd i'r Eglwys ; beth ga' i ddeyd, taid ?' Erbyn i Ifor dd'od adref y Sadwrn nesaf yr oedd Richard Roberts wedi ysgrifenu deuddeg rheswm ; ac yr oedd Ifor wedi eu dysgu cyn boreu Llun. . A dyma hwy, gydag esboniad Richard Roberts arnynt:— 1. Dywed y Beibl fod gan Iesu Grist Eglwys i ni eigweled —' Un Corph (nid un enaid) sydd.' Lle mae hi ì Un, nid 300 sect. A lle yr oedd hi 400 rnlynedd yn ol, cyn geni yr un o honynt ? 'Roedd gan Iesu Grist ' Gorph ' yr adeg hono ; ac i'r Corph hwnw 'rwyf fl yn perthyn. 2. Dywed y Beibl fod pobl yr Arglwydd i fod yn un. 12—vi.