Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y PERL. Hhifyn 69. &EPTEUBER, 1905. Cvf. VI. PA'M 'RWY N MYN'D I'R EGLWYS. I DDERBYN NEGES ODDI WRTH IESÜ GRIST. ----- RIGAI yn Nolwyddelan bymtheng mlynedd yn ol hen ŵr o"r enw Elis Roberts. Meddai drwydded, neu aw- durdod, oddiwrth Esgob Bangor i weinyddu a phregethu fel lleygwr— Darllenwr Lleyg. A phob yn ail Sul äi i Gwm Penmachno. Un prydnawn Sadwrn, cyd-gerddai â phregethwr Methodistiaid. Wedi ychydig siarad, dechreuodd y pregethwr wawdio yr Eg- lwys, yn enwedig yr Olyniaeth Apostolaidd. Nid yw Plant y Perl yn deall beth feddylia yr enw yna eto, ond fe ddeuant i'w ddeall ac i'w brisio yn y man. Nid oedd cyd-gerddwr Elis Roberts yn ei ddeall 'chwaith, ac nid oes un pregethwr sydd yn gwawdio yr Olyniaeth Apostol- aidd yn ei ddeall. Ni cheir y rhai sydd yn ei deall fyth yn ei gwawdio. " Wel," meddai Elis Roberts, " mae gen i genad ac awdurdod i bregethu oddi wrth yr Esgob—fel lleygwr. Ond am yr offeiriaid a r diaconiaid maent hwy yn dal eu swyddau sancteiddlan drwy rym comisiwn, neu aw- durdod Iesu Grist." " Sut felly?" ebai ei gydymaith. " Wel, welwch chwi. penododd yr Arglwydd Iesu ddeu- 9—vi.