Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y PERL. Khifyn 68. AWST, 1905. Cyf. VI. PA'M 'RWY'N MYN'D I'R EGLWYS. "CWMNFR SAINT 'RWYF YN EI GARü." AE hanes Cymru yn frith o enwau Seintiau a duwiolion—Dewi Sant, Teilo Sant, Seiriol, Padarn, Cybi, Cadfan, Deiniol— mae edryeh ar hanes Cymru, fel edryeh ar yr awyr ar noswaith glir ; mae yn llawn sêr disglaer, hen Seintiau Cymru. Yr ydwyf fel Cymro yn falch o'r hen dadau hyn. Wel, i ba Eglwys yr aent hwy? I Eglwys Cymru, wrth reswm. Nid oedd uii enwad mewn bod. Nid oes un o'r 300 enwad- au yn 350 mlwydd oed eto. Ac yr wyf finau fel Cymro yn myned i Eglwys yr hen Seintiau. Mae haues Cymru mewn amser mwy diweddar yn llawn o enwau anwyl—yr Esgob Morgan, yr Esgob Richard Davies, yr Archddiacon Edmund Prys, a'r Ficer Pritehard, y Bardd Cwsg, William Salesbury, ae Eos Ceiriog. Dyna enwau nas ceirsaith o'u bath. Beth oeddent hwy? Eglwyswyr sêlog. Ac yr wyf finan am fod yn eu cwmui. Ond mwy na hyn yna: Ar hyd yr oesoedd rhoddodd y Saint a'r raerthyron en gwaed a'u bywyd dros yr Eglwys. Torwyd pen St. Paul; croeshoeliwyd St. Petr ; rhoddwyd yr hen Èsgob Ignatius i'r llewod ; a llosgwyd yr Esgob Polycarp er mwyn yr Eglwys. Ië, ac nid gwŷr yn unig ddioddefodd