Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

*3SBÊÉÊb*. ----- ,jrirr^jTiil[^fci^j*iM .........— Y PERL. Rhifyn 67. GORPHENAF, 1905. Cyf. VI. PA'M 'RWYN MYN'D I'R EGLWYS. AM FOD Y BEIBL YN Y CAPEL. ' GAIN rulynedd yn ol, yr oedd hen ŵr o'r enw Henry Mathers yn byw yn y Garth, Bangor. Eglwyswr sêlog ydoedd : ni fyddai ei le fyth yn wâg yn Eglwys St. Mair foreu na hwyr, er ei fod cîros bedwar ugain oed. A gwyddai pawb fod Mr. Mathers yn hen ẃr duwiol. Ar ei ffordd i'r Eglwys, gan fod ei gam- yn fòr, a'i gerdded wedi myned yn araf,. deuai lluoedd heibio iddo ar eu ffordd i'r capetydd—Peniel, gerllaw Eglwys St. Mair, a'r Tabernacl yn Heol y Deon. Ac yn fynych iawn cyd-gerddai rhai gydag ef am ysbaid, gan ei fod yn hen ŵr diddan iawn ei gwmni. Wrth ymadael ger porth yr Eglwys, gofynent iddo, rhai o ysmaldod, eraill o ddifríf, ' Pa'm yr ydych yn myn'd i'r hen Eglwys yna, Mr. Mathers ? Dewch gyda ni i'r Taberuacl ; cewch well pre- gethu o lawer.' Neu meddai un aralì, ' Dewch gyda ni i Peniel; cewch grefydd yno, yn lle rhyw hen lol fel sydd yn yr Eglwys gyda'r hen Gommon Prayer yna.' Cariai yr hen ŵr y Llyfr Gweddi bob amser dan ei fraich ; a phan ddy- wedai neb ddim yn gas am dano, gwasgai ef yn dỳnach at ei ochr. 7—vi.