Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y PERL. Rhiftn 66. MEHEFIN, 1905. Cyf. VI. PA'M 'RWYN MYN'D I'JR EGLWYS. PWY OEDD YN IAWN O'B BLAEN? ETH Tomos Jones a William Hughcs. un tro, i beu y Wycldfa. Nid oedd yr un o'r ddau wedi bod o'r blaen. Cyn cychwyn holai Tomos Jones rai fuasai yuo, a darllenai y Guide Book, nes gwybod vn lled dda aui v Uwybr. Ond dyn a wyddai yn well na neb oedd William Hughes. A'id oedd efe am wrando na darllen sut i fyn'd. ' Fe fedraf fi farnu wrth edrych ar y ffordcl yn well nag y medr neb ddweyd wrthyf,' meddai. A chychwyn ddarfu iddynt. Wedi cyrhaedd Rhyd-ddu cyfeiriai Tomos Jones at y Uwybr. Eithr ni fynai William Hughes dd'od y ffordd hono. ' I ben y fan acw y mae eisieu inyn'd. Mi af ffordd gynt o lawer na throi a throsi ar hyd yr hen lwybr igam- ogam yna.' meddai. A cheisiodd dynu Tomos gydag ef er ei waethaf. Ond daliodd Tomos Jones at y llwybr. Ac aeth y ddau bob un ei ffordd. Erbyn cyrhaedd yr Éalfway, a thaflu golwg yn ol beth welai Tomos Jones'ond William Hughes yn mhell draw ar ol, ond wedi d'od i'r hen lwybr fel yntau. vi.—66.