Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Hhifyn 62. Y PERL. CHWEFROR, 1905. Cyf. VI. Y SYLFAENI. '• Megis pen saer celfydd, mi a osodais y sylfaen."'—i Cor. iii. 10. XII.—ADDOLIAD. C yr oeddynt hwy oll yn gyttun yn yr un llc.' ' Ac yr oeddynt yn parhau . . . . yn y torri bara ac yn y gweddiau.' ' A'r rhai a gredent oll oeddynt yn yr un man. A hwy beunydd yn parhau yn gyttun.' Act. ii. 42, 44, 46. i. Ara 300 mlynedd wedi Dydd y Pentecost bu yr Eglwys yn cael ei herlid. Weithiau cyfodai llid yn y bobl gyffredin ati. Gwaeddai y dyrfa yn y dref, ' I'r llewod â'r Cristionogion.' A theflid gwỳr, gwragedd, a phlant i'r llewod i'w darnio tra y curai y dyrfa eu dwylaw. Bryd arall, rhoddai yr ymer- awdwr neu raglaw orchymyn fod i bawb wadu Iesu Grist. Os tybid fod neb yn Gristion, deuid âg ef at allor un o'r duwiau a gofynid iddo aberthu. Os gwrthodai, i'r llewod âg ef, neu i'r tân. Pa fodd y deuent i wybod pwy oedd yn Gristion? Y rhan amlaf drwy eu gweled yn d'od at eu gilydd i addoli. Gwylid hwy, ac yn aml delid hwy gyda'u gilydd ar ganol y Cymun Bendigaid. Wel, gofyna rhywun, paham na fuasent yn rhoddi heibio addoli gyda'u gilydd ì Paham na fuasai pob un yn addoli