Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y PERL. Rhifyn 59. TACHWEDD, 1904. Cyf. V. Y SYLFAENI. " Megis pen saer celfydd, mi a osodais y sylfaen."—i Cor. iii. 10. IX.—CONFFIRMASIWN NEU ARDDODIAD DWYLAW. YW y Conffirmasiwn yn mysg y syl- faeni? Ydyw, medd y Beibl. Yn Heb. vi. 1-2, enwir chwe sylfaen, sef Edifeir- wch, Ffydd, Bedydd, Arddodiad Dwylatc,- Yr Adgyfodiad, a'r Farn. Nid oes dadl bellach. i. Yn llyfr yr Actau ceir hanes Phylip, y diacon, yn ffoi o Jerusalem yn amser yr erlid (Act. viii. 1—17). Daeth i ddinas Samaria a dechreuodd bregethu yno. Pa fath bregethwr oedd Phylip? Pregethwr na welwyd bron erioed ei fath. Troes St. Petr dair mil yn Jeru- salem; troes St. Paul luaws yn Corinth a manau ereill; ond troes Phylip yr holl ddinas. Bu llawer pregethwr mawr yn Nghymru, ond ni welwyd yr un erioed yn troi tref gyfan. Wedi eu troi bedyddiodd Phylip hwy. Pa beth oedd eisieu yn ychwaneg—yr oedd y bobl wedi credu ac wedi eu bedyddio? Yr oedd arnynt eto eisieu Conffirmasiwn 11—v.