Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhifyn 58. Y PERL. HYDREF, 1904. Cyf. V. Y SYLFAENI. " Megis pen saer celfydd, mi a osodais y sylfaen." — i Cor. iii. 10. VIII.—GLAN FEDYDD. " Addefafun Bedydd er maddeuant pechodau."—Credo Nicea. 'lAFAI palas hardd yn nghanol heolydd tylodion, budrou. Oddi allan yr oedd pawb yn eu earpiau, ae eisieu bwyd arnynt. Yn y palas yr oedd dodrefn godidog, dillad hardd, a gwleddoedd o fwyd a diod. Ond nid oedd ffbrdd i fyned i fewn. O'r diwedd gwnaeth y gŵr oedd biau y palas ddrws. A'r rhai ddeuai i fewn yn unig a gaent y bwyd a'r dillad. 2. Gwnaeth Iesu Grist Ei Eglwys fel palas yn nghanol byd pechadurus, lle y mae pawb yn maeddu eu hunain wrth beehu, ac arnynt eisien glanhad a bwyd ysbrydol. Yn yr Eglwys mae cyflawnder o bob bendithion, glanhadoddi wrth bechod, a gwleddoedd o fwyd a diod i'r newynog—hi ydyw Corff Iesu Grist, ac ynddi hi y mae yr Ysbryd Glân yn trigo ac yn gweithio. Ond pa fodd y mae myned i mewn? Gwnaeth Iesu Grist ddrws. 'Oddi eithr geni dyn o ddwfr 10—v.