Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y PERL Rhifyn 56. AWST, 1904. Cyf. V. Y SYLFAENI. V._Y BIBL. ETH ydyw y Bibl? Ü ba le y daeth ? Beth y\v perthynas yr Eglwys â'r Bibl ? Heth feddylir wrth ddweyd mai Gair Duw yw y Bibl ? Dyma res o ofynion : Pa fodd yr atebwn hwynt ? 1. Dywed St. loau fod dau beth mawr wedi d'od trwy Iesu Giist, ' Gras a Gwir- ionedd a ddaeth trwy Iesn Grist,' St. Ioan i. 17. Gras ydyw y nerth, yr help, roddir i'n henaid i'n gwneyd yn gryf yn erbyn pechod, ac i'n puro a'n gwneyd yn wyn, a glân, a sanctaidd. Y Gwirionedd ydyw yr hyn ddysgodd Iesu Grist ani Dduw, am dano Ei Hunan, ac am Ei Eglwys. Dysgodd Ei apostolion y gwirionedd am Ei Dad—pa fath un yw ; am dano Ei Hun, y Mab, a'i neges yn d'od i'r byd. Dysgodd y gwirionedd am yr Ysbryd Glân a'i waith; am danom ein hunain, am y natur ddynol, ein gallu, ein dyledswydd, a'n dyfodol, ein pechod. Dysgodd i'w apostolion y gwirionedd am Ei deyrnas, ac am Ei Eglwys, Ei deyrnas ar y ddaear. 2. Pan aeth Iesu Grist oddi ar y ddaear i'r nefoedd, beth ddaeth o'r ddau beth hyn : Gras a Gwirionedd ? Gadawodd hwy i'w Eglwys. Dyna waith Yr Eglwys, cyhoeddi y Gwir-