Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ÜHIFYN 54. Y PERL. MEHEFIN, 1904. Cyf. V. Y SYLFAENI. IV.—DUW YR YSBRYD GLAN. " REDAF yn yr Ysbryd Glân,' medd y Credo. Pa faint a wyddom am Ddnw yr Ysbryd Glân ! Ychydig iawn, mae lle i ofni. 1. Pwy ydyw? Y trydydd Persun yn y Drindod. Mae yn Berson, yn rhywun fedr siarad, ' Dywedodd yr Ysbryd wrth Phylip ' (Actau viii. 29). Gall ' erfyn '; gall ' dystiolaethu '; gall ' ddysgu, ' Efe a ddysg i chwi yr holl bethau a ddywed- ais i chwi' (St. Ioan xiv. 26); gall ' glywed' ac ' arwain.' Dyna feddylir wrth ' Berson,' un fedr siarad, clywed, a gwneyd. Ac un felly yw yr Ysbryd Glân, un y gallwn siarad âg Ef, gofyn pethau ganddo, a gweddio arno, fel y gwnawn yn y Litani. Y mae yn ' Berson Dwyfol.' ' Yr Ysbryd Glân sy Dduw,' medd Credo St. Athanasius. ' Ni ddywedaist ti gelwydd wrth ddynion, ond wrth üduw,' meddai St. Petr wrth Ananias (Actau v. 34). Cartref Duw ydyw ' teml,' eto dywed St. Paul fod ein cyrfF yn 'demlau,' am fod yr Ysbryd Glân yn trigo ynddynt. Felly mae yr Ysbryd Glân' yn ' Berson Dwyfol, Hall-alluog, Holl-wybodol, Holl-bresenol. 'Yr Arglwydd,' medd Credo Nicea. Mae hefyd yn ' deiìliaw o'r Tad a'r Mab.' ' Yr Ysbryd Glân,' medd Credo St. Athanasius, ' sydd o'r Tad a'r Mab = 6—v.