Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ÜHIFYN 52. Y PERL. EBRILL, 1904. Cyf. V. Y SYLFAENI. " Megis pen saer celfydd, mi a osodais y sylfaen."—) Cor. iii. 10. IV.—IESU GRIST. Ei Fab Ef—Ein Harglwydd Ni. YDDWN yn sôn llawer am Iesu Grist. Mae'r gwasanaeth yn y Llyfr Gweddi yn frith o'i Enw. Ond pa faint a wyddom ni am dano Ef? Pwy ydyw 1 Beth a wnaeth ? Beth y mae Efe yn ei wneyd? Paham yr ydym yn sôn cymaint am dano ? Pwy ydy w Iesu Grist 1 Gyda phawb arall dechreuir ei hanes pan ga ei eni. Eithr nid felly Iesu Grist. Yn y Llyfr Gweddi, ond troi i Ddydd St. Ioau Fedyddiwr cawn hanes St. Ioan yn dechreu pan aned ef : ond os y trown i Ddydd Nadolig cawn yr Efengyl yn dechreu gyda hanes Iesu Grist cyn Ei eni Éf, ac yn diweddu gyda'i enedigaeth. Felly yr oedd Iesu Grist yn bod ac yn byw cyn cael ei eni. Mab Duw ydyw, yr ail berson yn y Drindod ; uuig anedig Fab Duw. ' Wedi Ei genhedlu gan Ei Dad cyn yr holl oesoedd,' medd Credo Athanasius. ' Yn y dechreuad yr oedd y Gair,' sef y Mab, 'a'r Gair oedd gyda Duw, a Duw oedd y Gair,' St. Ioan i. 1. Mae Iesu Grist felly er tragywyddoldeb yn Fab Duw. 4_v.