Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y PERL. Rhifyn 51. MAWRTH, 1904. Cyf. V. Y SYLFAENI. " Megis pen saer celfydd, mi a osodais y sylfaen."—1 Cor. iii. 10. II.—Y LAN FENDIGAID DRINDOD. Duw mewn Tei Pherson—Trindod Ddiwahan. WEDI i Dduw greu y byd a phobpeth arall ynddo, dywedodd, • Gwnawn ddyn ar ein delw ni, wrth ein llun ein hunain ' (Gen. i. 28). Pwy oedd y ni hyny? Pan welodd Esaiah yr Arglwydd yn Ei Deml, canai y seraphiaid, ' Sanct/ ' Sanct,' ' Sanct,' dair gwaith. A gofyn- odd yr Arglwydd, 'Pwy a ä drosora ni ? ' (Esai. vi. 1—8). Pwy oedd y tri ' Sanct' hyny 1 II. Ni cheir yr atebiad hyd nes d'od i'r Testament Newydd. Diwrnod bedyddio Iesu Grist yn yr Iorddonen, gwelir pwy oedd y Tri. Meddai y Tad o'r nef, ' Hwn yw fy anwyl Fab.' A daeth yr Ysbryd QIan arno fel colomen. Dyna'r Tri. Cawn son am y Tri gyda'u gilydd eto y noson cyn croeshoelio Iesu Grist. Meddai Efe ' fli a weddíaf ar y. Tad, ac efe a rydd i chwi Ddiddanydd arall; Ysbryd y Gwirionedd . . . Yr Ysbryd Glan, yr hwn a enfyn y Tad yn fy enw I' (S. Ioan îiv. 16—26). A chyn esgyn i'r nef- oedd, dywedodd Iesu Grist wrth Ei Apostolion am fedyddio 4 yn enw y Tad, a'r flab, a'r Ysbryd Glan.' 3—T.