Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y PERL. Rhifyn 50. CHWEFROR, 1904. Cyf. V. Y SYLFAENI. " Megis pen saer celfydd, mi a osodais y sylfaen."—i Cor. iii. 10. AE llawer o bobl, y dyddiau hyn, na wyddant yn iawn beth y maent yn gredu. Am hyny y maent, fel y dy wed yr apostol, 'yn bwhwmman,' hyny ydyw, yn cael eu lluchio yn ol ac yn mlaen, fel ar dònau'r môr, ac yn cael ' eu cylch-arwain,' weith- iau'r ffordd yma, ac weithiau y ffordd arall, ' â phob awel-ddysgeidiaeth.' Nid felly y dylid bod, eithr wedi ein sylfaenu yn y gwirionedd ; yn sefyll yn ddisigl ar gadarn sylfaen Duw. Dyna'r paham y ceir y Credo yn mhob gwas- anaeth, er mwyn i ni yn wastad gofio'r sylfaeni, y rhai yw y pethau mawr iawn a phwysig a ddywed y Credo. Ac o ba le y caed y Credo ? Wel, esgyrn y Beibl ydyw y Credo. A sylfaen ac esboniad y Credo yw y Beibl. Gadewch i ni, ynte, geisio y fiwyddyn hon chwilio beth yw y ceryg sylfaen sydd o dan yr Eglwys, ac o dan ein crefydd. Beth yw y pethau penaf ddylem ni eu credu yn ddisigl î 2—v.