Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y PERL. Rhifyn 35. TACHWEDD, 1902. Cyf. III. SWYDDOGION BYDDIN IESU. XI.—DIACON. ETH yw Caplan? Pa sawl math o Gaplaniaid a fedd Esgob'? Paham y gelwir yr Offeiriad weinydda yn y Carchar yn Gaplan1? Gwisga pob offeiriad stole, neu y scarf ddu, yr hon a ddisgyn i lawr o'i flaen. Ond gwelodd y plant ambell weinidog ieuanc a'r stole dros un ysgwydd, ar draws ei frest, ac wedi ei chylymu o dan y fraich arall. Pwy yw hwnw1? Dyna y Diacon. A'r dull o wisgo y stole a ddengys ei urdd. Sylwch mai urdd, nid swydd, yw eiddo Diacon. Un o'r tair Urdd neu Radd yn y weinidogaethyw—Esgob, Offeiriad, a Diacon. Er oes yr apostolion mae y tair urdd wedi bodoli yn yr Eglwys. Heb y rhai hyn, dywed yr hen ferthyr, St. Ignatius, tua'r flwyddyn 112, nad oedd yr Eglwys yn bod. Yn y chweched benod o'r Actau cawn hanes sefydlu yr urdd o ddiaconiaid. Un o'r urdd hon oedd St. Stephan, y 11— iii.