Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y PERL. Rhifyn 33. MEDI, 1902. Cyp. III. SWYDDOGION BYDDIN IESU. IX.—CURAD. A radd yn y weinidogaeth ydy w OfFeiriad ? Pa bethau fedr Offeiriad eu gwneyd, ac nas gall Diacon ? Pa enw roddir ar Offeiriad am mai efe sydd yn personoli, neu yn gweithredu dros, yr Eglwys yn y plwyf ? Beth ydywy gwahaniaeth rhwng Rector a Ficer ? Pwy fedr ddweyd beth ydyw Curad ? Mae yr enw wedi newid er yr amser pan roddwyd ef yn y Llyfr Gweddi. Mae llawer o enwau fel yna yn newid. Ar y dechreu 4 plwyf' y gelwid ' esgobaeth ;' ac enw ar ran fawr o wlad oedd esgobaeth yn Lladin, a llawer o esgobion ynddi. Erbyn hyn gelwir y rhan sydd o dan ofal un Esgob yn esgobaeth ; plwyf ydyw, nid rhan Esgob, ond y rhan o'r Eglwys sydd o dan ofal Rector neu Ficer. Dyna enw arall sydd wedi newid ei ystyr—Esgob. Yn y 9—iii.