Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y PERL. Rhifyn 3. MAWRTH, 1900. Cyf. I DEWI, ARCHESGOB. EIN SANT y mis hwn yw Dewi, dydd yr hwn yw y dydd cyntaf o fis Mawrth. Mae yn debyg fod holl blant y Perl wedi clywed son aui Dewi Sant. Efe yw y Cymro sydd wedi cael ei anrhydeddu fwyaf, gan yr Eglwys, o neb o'i genedl. Y mae hi wedi rhoi ei enw ef yn ei chalendar i'w goffhau gan Gristionogion pob gwlad a phob oes. Dyna anrhydedd fawr, onide1? Hefyd, y mae ei genedl wedi ei fawrygu trwy ei ddewis fel ei nawdd sant. 0 holl Gymru pob oes, Dewi Sant yw yr uchaf ei glod. Sut y bu iddo gael y fath anrhydedd 1 Ai brenin oedd? ynte seneddwr, neu filwr mawr ? Nage. Dyn tawel, distaw, hoft' o fyw o olwg y byd oedd. Ond yr oedd yn ddyn duwiol. Cymerai ormod o ofod i mi roi mwy na bras- luniad byr o'i hanes. Yr oedd yn fab i dywysog. Addysgwyd ef yn Nhy Gwyn (efallai Witland, Sir Benfro), daeth yn ysgolor gwych, a phlanodd ysgolion yn Nhy Ddewi, fu mewn bri mawr am oesau. Yr oedd gauddo naw cant o ysgoleigion. Rhanai y dydd iddo ei hun a hwythau fel hyn : Wyth awr i gysgu, wyth awr i weithio, ac wyth awr mewn unigedd gyda Duw. Sefydlodd, hefyd, yr Eglwys Gadeiriol a elwir genym ar ei enw, a dewiswyd ef yn Esgob Ty Ddewi. Dyn mawr oedd Dewi Sant: mawr mewn addysg, mawr mewn iselfryd, mawr fel pregethwr, mawr gyda dyn, mawr gyda Duw. Modd bynag, pe b'ai heb wneud ond hyn, digon 3—i.