Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"Gan Thomas Dick, ll.d. " Cofia y dydd Sabbath, i'w sancteiddio ef. Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnai dy holl waith: ond y seithfed dydd yw Sabbath yr Arglwydd dy Dduw," &c. X mae y gorchymyn hwn yn cynwys neillduad un dydd o saith, fel dydd o orphwysdra oddiwrth lafur bydol, ac fel cyfran o amser cysegredig at ymarferiadau defosiynol crefydd, ac yn bendifaddeu at wasanaeth c)rhoedd Duw. .Rhoddwyd ef i'r genedl, nid yn unig er dangos arlywyddiaeth y Deddfroddwr ; ond i ych- wanegu mwynhad teimladol a meddyliol dyn. " Y Sabbath," medd ein Hiachawdwr, " a wnaelhpwyd er mwyn dÿn, ac nid dyn ermwyn y Sabbath." Gwnaethpwyd ef er mwyn dyn, yn y lle cyntaf, fel âydd yorphwyso. Yn y golwg yma, y mae yn osodiad mwyaf doeth a thrugarog, yn neillduol os ystyriwn sefyllfa bresenol dynolryw, yn ddarostyngedig i lafur