Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YK ATHRAW, AM MAI, 1944. ©osran p ^ttUmnpö&. BRASLUN O BREGETH Y DIWEDDAR MR. BERRIDGE. " Ein llythyr ni ydych chwi." 2 Cor. iii. 2. Dyma oedd iaith apostol mawr y Cen- hedloedd, (yrhwn oeddyn eì olwg eihun yn Uai na'r lleiaf o'r holl saint,) mewn cyfarchiad at yr eglwys yn Corinth, ael- odau pa eglwys a fuont gynt y rhai gwaeth- af o ddynion; ac i ba le bynag yr âi yr apostol, lle yr oedd llythyrau o gymerad- wyaeth yn angenrheidiol i'r gweinidog- ion, efe a gyfeiriai at y dychweledigion hyn, y rhai oeddynt yn llythyrau byw, ac mor nodedig fel y gellid eu deall a'u dar- llen gan bob dyn. Yr oedd y cyfnewid- iad mor eglur ynddynt, fel ag i'w nodi allanibobun; y meddwyn wedi dyfod yn sobr,—yr anonest yn gyfiawn,—yr af- radlon yn ddiwastraff,—yr anllad yn ddi- wair,—a'r balch yn ostyngedig. At y rhai hyn yr appeliai yr apostol, fel llythyrau o gymeradwyaeth, y rhai oeddynt yn llyth- yrau byw yn Corinthmegys "goleuadauy byd." Mewn epistol, y mae yn rhaid fod pa- pyr neu femrwn, pin, ysgrifenydd, a rhyw- beth wedi ei ysgrifenu. 1. Y papyr neu ymemrwn, yn yr epis- tolau dwyfol hyn, a ellir ei ystyried y galon ddynol, yr hon sydd, medd rhai, fel papyrlen wen, yn lân; ond os yw felly ar un ochr, y mae mor ddû ag y gall pechod ei gwneyd yr ochr arall. Gall ymddangos yn lân, fel bedd wedi eiwỳn-galchu, oddi- allan, ond y mae yn llawn o bob budreddi oddifewn. 2. Gellir cydmharu y pin i weinidogion yr efengyl, y rhai a ddefnyddir yn yr epis- tolau hyn; y mae amryw o honynt yn ddigon parod i gydnabod eu hunain yn pinau drwg iawn, o'r braidd yn gymhwys i ysgrifenu â hwy, neu i gael eu defnyddio (mewn nn modd) mewn gwaith mor fawr. Y mae yn ymddangos eu bod wedi ym- drechu, er's llawer o flynyddoedd, i wneyd pinau yn y prif ysgolion; ond er yr holl gywreinrwydd a'r lludded a gymerwyd, y pinau a wnaed yno nid ydynt werth dim hyd nes y rhydd Duw flaen arnynt. Ar ol eu gwneyd, gwyddys yn dda fod ar y pinau goraf eisiau cael eu gwellhau. *r wyf fi yn canfod fod yr hen un tylawd, yr hwn a ddefnyddiwyd er's hir amseí bellach, ac eto a ddefnyddir i 'sgriblo, mewn eisiau o gael ei wella ddwy neu dair gwaith bob pregeth. 3. Yr inc a arferir yn yr epistolau dwyfol hyn, a gydmharaf i effeithiau dwy- fol ras ar y galon; y mae hwn yn disgyn yn rhwydd o'r pin pan y mae yn cael digon o gyfranogiad o'r brif ffynnon, yr hwn yr ydym ni beunydd yn sefyll mewn angen am dano; ond ar droau chwi wel- wch y pin yn ddigon gwan, ac o'r braidd yn sych. Pa bryd bynag y cenfydd neb o honoch yr amgylchiad felíy, naill ai yn y Tabernacl neu ryw le arall, a ydych yn barod i ddywedyd, "O! y fath greadur tylawd yw hwna; gallwn bregethu gystal a hwna fy hun !" Gall hyny fod yn wir : ond yn lle yr achwyniadau galarus hyn, dyrchefwch eich calon mewn gweddidros y pin tylawd, a dywedwch," O Arglwydd, dyro ychydig mwy o inc." Ond os bydd pin wedi ei wneyd yn dda, ac yn gy- mhwys i ddefnydd, nid all symud o hono ei hunan, eithr rhaid cael goruchwyliwr i'w osod ar waith. 4. Ysgrifenydd yr epistolau bywiog a gogoneddus hyn yw yr Arglwydd Iesu Grist. Y mae rhai pobl yn siared am ac yn dra chywrain mewn ysgrif hardd; ond y mae rhywbeth yn ysgrifau y llythyraü hyn ag sydd yn rhagori ar bob peth a ys- grifenwyd erioed yn y byd: canys fel y mae Iesu Grist yn llefaru fel na lefarodd neb erioed o'r blaen yn debyg iddo, felly y mae yn ysgrifenu fel na ysgrifenodd neb erioed yn gyffelyb. Un peth nodedig yn yr epistolau hyn yw, y maent mor eglur a hawdd eu deall fel yr adnabyddir ac y darllenir hwynt gan bob dyn. Fel nas gall pinau symud o honynt eu hunain, felly yr ydym iiinau yti proffesu, pan yn cymeryd arnom y weinidogaelh, ein bod yn cael ein cynhyrfu gan yr Ysbryd Glân, ac nas gallwn symud i un dyben da heb ei gynorthwy dwyfol. 5. Yn mhob epistol y mae rhywbeth a ysgrifenir. Llawer a ellid ei ddyweyd yma, ond casglaf sylwedd yr ysgrifeniadau dwyfol mewn tri epistol, sef edifeirwch, ffydd, a santeiddrwydd. Y naae edifeir-