Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW, EBRIIìIì, 1844. Sûoran p Sutoeinplrîr. GALWAD YR EFENGYL HEB FOD YN ANNGHYSON A IAWN TERFYNOL. " Y commisiwn i bregethu ffydd ac ed- ìfeirwch er maddeuant pechodau," medd un o ddadleuwyr galluocaf athrawiaeth y gyfundraeth Arminaidd,"a llawer o bethau o'r cyffelyb natur, ar led trwy yr ysgryth- yrau santaidd, ydynt mor amlwg o an- nghyson á'r athrawiaeth o brynedigaeth derfynol o ryw ychydig o bersonau de- wisedig." " Uadleuwr pur enwog achraff yn y dyddiau hyn a orphwysa amddiffyn- iad yr athrawiaeth o íbd iawn wedi ei wneyd trwy angau Crist dros bob dyn, ar y ddadl fod cyffredinolrwydd yn yr iawn yn angenrheidiol er cysondeb â gwahodd- iad cyffredinol." Uyma yw y brif ddadl ar ba un y mae yr Arminiaid, a duwin- yddion yr ysgol newydd, yn amddiffyn eu crediniaeth o'r athrawiaeth fod Crist wedi marw yn gyffelyb dros bob dyn. Y mae galwad yr efengyl, meddynt, yn gyffredin- ol; gan hyny y maent yn casglu fod yr iawn hcfyd yn gyffredinol. Nid dyben yr ysgrif hon y w ymofyn i natur yr iawn, nac i'w helaethrwydd; ond yn unig i chwilio a cheisio amlygu twyll yr ym- resymiad, mor fynych a buddugawl a gesglir yn ffafr ei gyffredinolrwydd. Fe ddelir sylw, yn y ddadl a enwyd uchod, fod gwirionedd y gosodiad penaf yn cael ei gymeryd yn ganiataol, scf, fod galwad yr efengyí yn gyffredinol; ac oddi- wrth y cymeriad rhadlawn hwn tynir y casgliad, fod Crist wedi marw yn gyffelyb dros bob dyn. Yn awr yr ydym ni yn gwadu y cynsciliau ar ba rai y mac y ddadl yn gorphwys. Nis gall ncb amau nad yw yr efengyl yn cyfarch pawb heb wahaniacth, lle bynag y pregethir yr ef- engyl; ond nid yw y ffaith yma i gael ei chymysgu a'i gwneyd yn un â'r haeriad fod galwad yr efengyl yn gyffiedinol. Y ddau belh hyn ydynt ddigon eglur, ac yn wahanol y naill oddiwrth y llall. Y mae yn bosibl cyfarch pechaduriaid yn ddi- wahaniaeth trwy alwad yr efengyl, ac cto fod yr efengyl a gynwysa yr alwad hòno heb gyfarch dynion yn gyffredinol, yn ol y dybiaeth yn nadl ein brodyr. Y cyfryw mewn gwirionedd yw y rnater. Cyhoeddiad a galwad yr efengyl a gyfyng- wyd gan üduw, mewnamseroedd a aeth- ant heibio ac yn bresenol, i ryw ddos- beirth mwy neillduol o'r hil ddynol. Galwad yr efengyl a gyfyngwyd yn benaf dan yr hen oruchwyliaeth i'r Iuddewon, a thrwy gyfiawn benarglwyddiaeth a attal- iwyd oddiwrth genhedlaethau ereill. " Uanghosodd ei air i Jacob, a'i ddeddfau a'i farnedigaethau i Israel. Ni wnaeth efe felly âg un genedl; ac nid adnabuant ei farnedigaethau ef." Pan anfonodd yr Arglwydd y deuddeg apostol, efe a or- chymynodd iddynt gan ddywedyd, " Nac ewch i ffordd y Cenhedloedd, ac i ddinas y Samariaid nac ewch; ond ewch yn hytrach at ddefaid cyfrgolledig tỳ Israel." Ac hyd yn nod tan yr oruchwyliaeth newydd, y mae yn ffaith yn hanesiaeth dwyfol ragluniaeth, na phregethwyd yr efengyl i bawb; a bod Uuw, fel mewn. amseroedd a aethant heibio, yn goddef i genhedlaethau rodio yn eu ffyrdd eu hun- ain. Y ffeithiau hyn nis gellir eu gwadu, ac y maent yn profi i amlygrwydd na bu yr efengyl erioed yn gyffredinol, ond yn cael ei chyfyngu trwy yr holl oesoedd i ranau penodol a ffafriol o'n cenedl. Gan hyny, gan fod yr efengyl wedi bod hyd yma yn derfynol yn ei chyhoeddiad, ac nid yn gyffredinol, y mae yn dra afresym- egol (illogical) casglu oddiwrth y fath os- odiad fod yr iawn yn gyffredinol. Y mae gwahoddiad ciijffredinol yn angenrheidiol er cysondeb « iaicn cyffredinoL Yn ©fer y mae ein brodyr yn apelio at helaeth- rwyddgalwad yrefengyl fel prawfo'uhoff athrawiaeth, hyd oni ddanghosant gyson- deb eu crcd i Grist weithredu fel Offeir- iad dros bawb wrth wneyd iawn drostynt, yn nghyda'r ffaith addeAidwy nad yw yn gweithredu fel Proffwyd i bawb—nad yw yn dysgu i bawb, trwy ei efengyl, ewyllys Uuw er eu hiachawdwriaeth. Rhyw rith-esgusiad ofer oddiwrth rym yr ymresymiad hwn yw dywedyd, fel y dywed rhai, y gallesid cyhoeddi yr cfengyl i bob dyn. Y cwestiwn yw, nid beth a allesid, ond beth a wnaed, acsydd yncael