Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW, IOHîJlWR, 1844. FFYDD YN CADARNHAU Y DDEDDF. PENNOD I. : Na ato Duw : eithr yr ydym yn cadarnhau y ddeddf," Rhuf. iii. 31. Profodd yr apostol o'r blaen yn y ben- nod, mai trwy ffydd, ac felly yn unig, y gallesid eyfiawnhau dyn; ac nad oedd yr Iuddew mwy na'r Cenedl-ddyniddysgwyl cyfiawuhad yr un ffordd arall. Yn y testyn y mae efe yn rhagweled y gallasai rhywrai wrthddadlu ei athrawiaeth, a dy- wedyd, fod ei waith ef yn dysgu i ddyn- ion ymddiried yn haeddiant un arall am gyfiawnhad, yn ddianrhydeddar y ddeddf; ac y byddai i'r hwn a bwysaiarhaeddiant un arall, yn ol athrawiaeth cyfiawnhad trwy ffydd, fyned yn benrhydd a diofal am ufyddhau i'r ddeddf ei hun. Y mae yr apostol yn rhagweled y gallasai rhai wrth- ddadlu fel hyn; gan hyny y mae yn gofyn ei hunan, " Wrth hyny, a ydym ni yn gwneuthur y ddeddf yn ddirym trwy ffydd?" Yna mae yn ateb, "Na ato Duw: eithr yr ydym yn cadarnhau y ddeddf."—Fel pe dywedasai, Y mae ein gwaith ni o bwyso ar haeddiant un arall am gyfiawnhad, cyn belled oddi- wrth fod yn ddiystyrwch ar y ddeddf, fel y mae yn anrhydedd mawr arni; ac mor bell oddiwrth ein gwneyd yn benrhydd, fel y mae yn sicr o effeithio i'r gwrth- wyneb. Effeithia er ein gwneyd yn ufydd i'r ddeddf. Wrth y ddeddf, yn y testyn, y deallir y ddeddf foesol—y deg gorchymyn. Wrth gadarnhau y ddeddf y deallir ei pharchu a'ihanrhydeddu. Amfwyhauneu leihau ei hawdurdod, fel y mae hi yn ddeddf llywodraeth Duw, y mae hyny allan o gyraedd yr un creadur am byth. A chyda golwg arni felly, y mae hi yn anysgogol byth. Ebai Crist, "Haws yw i nef a dacar fyned heibio, nag i un iot nac un tipyn o'r gyfraith ballu, hyd oni chwbl- häer oll." Deddf a gododdo natur Duw yw hon, a'r un mor hawdd fyddai newid natur Duw a newid y ddeddf. Yr un peth fyddai troi Duw oddiar ei orsedd, ei droi o fod yn Frenin, ag a fyddai newid dim ar y ddeddf hon. " Haws yw i nef a daear fyned heibio." Gallai Duw, pe yr ewyllysiai, ddiddymu y nef a'r ddaear heb wneyd cam â neb nac â dim; ond nis gall, yn ol natur pethau, newid dim ar ei ddeddf. Tra y byddo ef yn Dduw a Chreawdwr, a dyn yn greadur, ac yn ddi- bynol arno, rhaid i'r ddeddf hon fod yn ddeddf i ddyn yn barhaus. Felly, yn yr olwg hon ar y ddeddf, y mae hi uwchlaẅ i ddyn, trwy ddim a wnelo, ei chadarnhau na'i gwanhau yn y radd leiaf byth. Yr unig ffordd i ni gadarnhau y ddeddf y w, fel y dywedwyd, ei pharchu, cydnabod mai un gadarn yw. Yn gymhwys yr un modd ag am ogoneddu Duw. Cymhellir ni yn fynych i hyny, sef gogoneddu Duw. Ond pa fodd y dichon i ddyn wneyd hyny ? Y mae yn anmhosibl i ddyn ; îe, nis gali neb wneyd Duw yn fwy gogoneddus yn- ddo ei hun nag ydyw, canys y mae i'r graddau eithaf felly. Pa fodd gan hyny y dichon i ddyn roddi i'r Arglwydd ogon- iant ei enw ? Trwy gydnabod ei fod ef yn un gogoneddus-^-ei gydnabod yr hyn ydyw: dyma yr unig ffordd. Ac felly am gadarnhau y ddeddf. Y ffordd i wneyd hyn yw cydnabod mai un gadarn ydyw. Cydnabod ei bod yn deilwng o ufydd-dod a pharch. Ond y wers yn y tcstyn y w, Bod pech- adur, drwy gredu yn Nghrist, yn cadarn- hau y ddeddf, yn ei hanrhydeddu; ac egluro hyn fydd ein gorchwyl ar hyn o bryd. Ni soniaf yn awr am natur ffydd, ond cymeraf yn ganiataol fod gan bawb a ddarlleno ryw ddrychfeddwl pa beth yw credu yn yr Iesu; ond ein hunig waith fydd ceisio dangos pa fodd y mae pech- adur, trwy gredu, yn cadarnhau y ddeddf. 1. Y mae, trwy gredu, yn addef aw- durdod y ddeddf arno; ac yn addef hefyd ei fod ef yn ddyledwr yn ei hwyneb* Rhyw ymofyn am feichiai y w credu; ac ni wiw i ddyn a fyddo ar drot am feichiai am ryw hen ddyled, wadu yr hen ddyled hòno. Felly byddai ei ymddygiad yn gwrthddywedyd ei dystiolaeth; byddai ei draed yn gwrthddywedyd ei dafod. Onid yw ei waith ef yn ymofyn am feich- iai yn addef ar unwaith fod y ddyled yn bod? Wel, felly yma: ymofyn am feich- iai yw credu; apeliad at fechnîydd ydyw.