Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW, \Vm\TDîB3T,> m*» u ------♦------ CARIAD DUW. Cariad ydyw yrysgol fawr arhyd pa un y dacth Mab y dyn o orsedd ei Dad i wlad y ddaear, i agor ffordd i bechadur gael ei gadw rhag fflamiau byth. Cariad sydd yn dangos yr enaid, a'r enaid sydd yn dangos cariad; cariad sydd yn dangos y Beibl, a'r Beibl sydd yndangos cariad; cariad sydd yn dangos y Cyfryngwr, a'r Cyfryngwr sydd yn dangos cariad. Yn awr gwnaf rai sylwadau cyffredinol ar gariad Duw. I. Y mae yn gariad tragwyddol.—Wrth gariad yn Nuw yr wyf yn deall, y dymun- iad grasol a'r bwriad boreol oedd ynddo i wneyd lles i fyd o golledigion. Dyma y ífynnon fawr o ba un y mae ein holl gy-. suron yn tarddu : " A chariad tragwyddol y'th gerais." Fe greodd ddyn yn fore iawn, ond fe'i carodd yn gynt. Pe buasai y caru yma wedi dechreu yn y cyfnod ng y creodd Duw ddyn, ni buasai yn gariad tragwyddol. Fe'i carodd cyn ei fod, ac am hyny y mae yn gariad tragwyddol. Fe'i carodd cyn creu haul na lleuad, ser na phlanodau, môr na thir, mynyddoedd na dyílrynoedd, bröydd na bryniau, pysg- od y moroedd nac adar y<nefoedd chwaith. Fe garodd Duw ddyn cyn creu dyn nac angel, cerub na seraff—â chariad tra- gwyddol. Mor fore ag yr oedd efe yn Dduw, mor fore a hyny yr oedd efe yn Dduw y cariad. Ni fu erioed yn Dduw hcb fod yn Dduw cariadlawn ; a phe na bae yn fôd cariadlawn, bydâai yn agored 1 fod yn annghysur tragwyddol iddo ei hun. II. Y mae yn gariad penanglwyddiaeth- °l,~anfeidrol, doeth, cyfiawn, a da, ac yn dragwyddol o ran ei barhad : y mae yn anfeidrol a difesur. Gelwir ef yn fawr gariad, uwchlaw gwybodaeth; y mae yn udidrai. " O ddyfnder golud doethineb !" Nid rhyw nwyd a'i cynhyrfodd ef. Y niae n°îl beiriant iachawdwriaeth wedi ei atldumo â dwyfol ddoethineb, ac y mae pob dolen neu link yn nghadwyn y groes yn deilwng o Dduw. Dyma gariad sydd ^1 dal cysylltiad âg iawn y Cyfryngwr. Y mae holl blanedau trefn achub yn troi niewn gwaed, ac yn eu cylchoedd yn am- gylehynu Haul y Cyfiawnder. Y mae yn 2 r drag-çyddol yn ei darddiad, fel ffynnon yn mynwes y Duwdod, cyn gosod y gogledd ar y gwagle, na chrogi y ddaear ar ddi- ddym; acyn dragwyddol o ran ei barhad. III. Ymaeyngariadhunan-gynhyrfiol. —Nid yn y gwrthddrychau yr oedd dim i dynu sylw y Jehofa tragwyddol, canys gelynion oeddym ni oll; ond o dosluri tuag atom yr oedd ei gâriad megys môr cynhyrfiol yn berwi yn ei fynwes, nes y llifodd allan dros glogwyni gwlad y gwawl, ac y torodd allan ỳn Methlehem Judea ryw fore byth-gofiadwy, nes y dadseiniodd nefoedd a daear, a phawb am y cyntaf o lu glân y nef yn ei addoli; un yn gofyn, "Agaffi fyned?" ac arall yn gofyn yr unpeth, nes y dywedodd y Duw tragwy- ddol, "Acaddoledholl angylion Duwef!" IV. Cariad rhinweddol yn ei duedd.—* Megys ag yr oedd yr achos cynhyrfiol o gariad Duw ynddo ef ei hun, felly cariad Duw oedd y cynhyrfiol achos o gadwed- igaeth pechadur. Nid oedd yn ngallu neb o fodau dysglaer gwlad y purdeb, i'e, y rhai sydd nesaf at yr orsedd danbaid, i drefnu ffordd i achub pechadur: nis gall- asai dynion nac angylion byth ddwyn allan o drysorau eu meddylfryd ffordd a threfn i gyfiawnhau yr annuwiol, i ddwyn anrhydedd i'r ddeddf—iawn i gyfiawnder —a gogoniant i'r priodoliaethau dwyfol. Eithr wele drugaredd yn ehedeg ar aden- ydd cariad, ac yn cyflawni gorchwyl ag yr oedd ycreaduriaid ardderchocaf a feddai Duw yn anfeidrol ry wan i'w gyfiawni. Trwy rinwedd cariad y dygir y maen olaf i'r adeilad ysbrydol; ac fe fycld pawb yn gwaeddi, Rhad, rhad iddo ! V. Gwrthddrychau y cariad hwn.— " Efe yn caru yr eiddo, a'n carodd hwynt hyd y drwedd." Ni chyll cariad Duw yr un o'i wrthddrychau. Un o brif eff- eithiau cariad Duw ydoedd anfoniad ei Fab i'r byd i fyw a marw dros bechadur- iaid. Cariad oedd yn cymhell y Tad i roi y Mab; a'r un cariad a gymhellodd y Mab i'w roddi ei hunan yn aberth o'i wirfodd dros ei bobl; a'r un cariad a gymhellodd yr Ysbryd tragwyddol yn ei ymrwymiad i gymhwyso yr iachawdwriaethyneffeith-