Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW, inmn p Bunytin&flS. ------♦ SYLWADAU AR Y MODD I GYRAEDD AC I GADW LLAWN SICRWYDD GOBAITH. "Ac yr ydym yn chwennych fod i bob un o honoch ddangos yr un diwydrwydd, er mwyn llawn sicrwydd gobaith hyd y diwedd," Heb. vi. 11. Y cyfarwyddyd yn ein testyn yw "dangosyrun diwydrwydd." Yr oedd amry w o'r Hebreaid wedi bod yn llafurus iawn, y mae yn ymddangos, mewn llafur cariad tuag at enw yr Arglwydd, ac mewn gweithio drosto yn y byd, a gweini i'r saint. Ac y mae yr apostol yma yn rlioddi ar ddeall mai hon oedd y ffordd i feddu sicrwydd gobaith. Ac er mwyn cael pawb o honynt i feddu y sicrwydd, y mae yn chwennych i bawb o honynt "ddangos yr un diwydrwydd." Y mae rhai wedi meddwl fod y sicr- wydd hwn i'w gael trwy ddatguddiad digyfrwng oddiwrth Dduw. Darllenais am un gŵr bonheddig yn cerdded mewn ihyw goed, ddiwrnod ar ol diwrnod, gan ddysgwyl clywed llef oddiwrth Dduw yn hysbysu ei fod ef yn dduwiol. Ond ni chafodd cf glywed yr un lef; a gallesid sicrhau iddo (pe yn y fan a'r lle cyn iddo ddechreu cerdded) na chawsai ef glywed yr un lef chwaith: nid felly y mae y drefn. Y mae rhai yn dysgwyl i'r Ysbryd Glân ryw sibrwd sicrwydd i'w meddyl- iau— rhoddi yr argraff ar feddwl y dyn ei fod yn dduwiol, a pheri iddo gredu yn gadarn felly, er na byddo ganddo un rheswm neillduol paham. Tybir eu bod wedi dychymygu felly oddiwrth eiriau yr apostol, lle y dywed, "Ac y mae yr ysbryd hwn yn cyd-dystiolaethu â'n hys- hyd ni, ein bod ni yn blant i Dduw." Wrth yr ysbryd hwn yr ydym i ddeall yr ysbryd mabwysiad ag y sonir am dano yn yr adnod o'r blaen. Ac wrth hwnw y g°lyf?ir teimlad yn y meddwl at Dduw fel emTad; mewn cariad ato, parch iddo, ymddiriad ynddo. Yn awr, Ue byddo yr J'sbryd hwn yn gryf a nerthol, y mae yn cyJ-dystiolaethu â'n hysbryd ni, sef â'n cydwybod ni, ein bod ni yn blant i Dduw. «odolaeth yr ysbryd yw ei dystiolaeth. * mae yn y dyn y fath ymlyniad nerthol 2 L wrth Dduw fel ei Dad, fel nas gall amau nadyw yn blentyn i Dduw, ac nis galllai na gobeithio yn gryf am ei fywyd yn y drefn. Y mae llawer yn meddwl mai peth yw sicrwydd gobaith ag y mae Duw yn ei gyfranu ar antur, wrth ddamwain, neu yn benarglwyddiaethol (fel yr ewyllysiant hwy ddywedyd), heb reol yn y byd ibwy, na pha bryd, i'w roddi. Clywais un hen Gristion yn ddiweddar yn dadlu yn filain mai felly yr oedd. Yr oeddwn yn synu wrth weled henafgwr mor gamsyniol am drefn ei Dduw. Na, y mae gan Dduw bob amser ei reol sefydledig a chyffred- inol i weinyddu ei fendithion wrthi; heb hyny nis gallai fod y Barnwr cyfiawn. Ei reol ef i weinyddu bendithion y bywyd hwn yw, " Y neb a lafurio ei dir a ddi- gonir o fara;" a'r neb nis gwnelo hyny nis digonir. A'i reol i weinyddu bywyd tragwyddol yw, "Y neb a gredo a fydd cadwedig, a'r neb ni chredo a gondemnir." Ac y mae yr holl amheuaeth pa un a fyddi di yn gadwedig neu beidio yn aros o'th ochr di, pa un a geir di yn credu neu beidio. Üs credi, cadwedig fyddi; fe saif Duw at ei reol. Ni bydd neb o'r holl filiwnau a fydd yn golledig ddydd y farn, na, ni bydd cymaint ag un a all ddwyn cyhuddiad yn mlaen ei fod ef wedi credu, ond mai colledig yw er hyny. Wel, dyma y rheol hefyd wrth ba un y cyfrenir llawn sicrwydd gobaith. Y Cristion diwyd a'i caiff, a'r diog nis caiff mohono. Y diog yn ei grefydd, pwy bynag fyddo, ni chaiff y fendith. Pe byddai y gẁr cyfoethocaf yn y wlad, neu y pregethwr mwyaf doniol, os yn ddiog mewn crefydd bersonol, ni chaiff lawn sicrwydd gobaith, ond ofnau ac amheuon a'i poenant yn barhaus. Y mae c-fnau mewn crefydd yn dra thebyg i'r gout mewn ystyr naturiol. Nid oes modd ymgadw rhag y gout ond trwy fyw yn gymhedrol, a chodi yn fore,