Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW, Awm9 mm> -------4------- SYLWADAU AR NATUR SICRWYDD GOBAITH. " Ac yr ydym yn chwennych fod i bob un o honoch ddangos yr un diwydrwydd, er tnwyn llawn sicrwydd gobaith hyd y diwedd," Heb. vi. 11. Y mae sicrwydd gobaith yn beth ag y mae llawer o ymofya am dano, a hyny gan laweroedd, ond ychydig iawn sydd yn ei gael. Yn mysg y lluaws crefyddwyr sydd yn ein gwlad y dyddiau hyn, anfyn- ych y cyfarfyddwn â'r dyn fo yn meddu hyn. Cwyno, ofni, ac amau, y mae y cyft'redinolrwydd. Ac y rnae lle i ofni fod llawer un a gwyna fod ei obaith yn wan, heb ddyfod erioed i'r fan ag y gall pechadur, a hyny yn gyfreithlon, goledd gobaith am ei fywyd ; ni ddaeth erioed at Iesu, ac at waed y taenelliad. Er fod peth aflonyddwch ar y dyn yn fynych yn nghylch ei gyflwr, eto nid aeth mor bell a cholli ei fywyd ynddo ei hun, fel ag y bu raid ffoi at Geidwad. Yn debyg i ambell un â dolur ar ei fys : cwyna fod ei fys fel a'r fel; ac ambell ddiwrnod y mae yn oí'alus iawn yn ei gylch, yn cadw peth yn ei gysgod, a'i drwsio ; ond ddiwrnod arall y mae yn fwy esgeuíus ; ac weithiau y mae y bys yn lled dda, bryd arall y mae yn waeth ; ond trwy y cwbl nid aeth y dyn byth at y meddyg yn ei gylch. Cy- ffelyb yw llawer un gyda'i gyflwr; er ei fod yn cael loesion o argyhoeddiad yn awr a phryd arall, eto ni bu mor galed arno erioed fel ag iddo ffoi allan o hono ei hun at Grist. Yn awr, y feddyginiaeth i r dyn yma rhag ei ofnau, o'r hyn lleiaf uechread meddyginiaeth iddo, fyddai iddo eto ofni yn fwy nag erioed, ac ofni cy- maint o'r diwedd nes dyfod at Iesu a'r gwaed. Y mae yn ddiamau fod llawer gwir Gristion hefyd â'i obaith yn wan, ac yn odarostyngedig iawn i ofnau ac amheuon. %wfodd mae amau ac ofni wedi myned yn arferiad, yn ffasiwn; ac y mae pawb o honom yn fanwl am ganlyn y fl'asiwn, oadigerth ambell un sydd yn meddwl dyfod yn fawr ac yn wrthddrych o sylw Jrwy beidio. Gellid meddwl fod hyn yn duedd neu ddeddf natur i ddynolryw— canlyn yjffasiwn, y naill yn gwneyd fel y 2 G gwnay llall. Ac erbyn edrych, ymae yn dda iawn mai felly y mae. Buasai yn enbyd arnom pe buasai yn ddeddf natur ynom i fyned yn groes i'n gilydd ; felly buasem yn anhwylus iawn i fyw gyda'n gilydd. Ond nid felly y mae: y mae y Duw mawr wedi ein gwneyd y peth oedd eisiau i ni fod yn gymhwys, i allu byw gyda'n gilydd, a hyny yn hapus iawn oni bae ein drwg. A thebygol iawn yw fod llawer yn syrthio i'r agwedd o ofni a gwan- obeithio mewn rhan, mewn ffordd o gan- lyn y ffasiwn. Ond nid yw hon yn arfer ac yn ffasiwn dda; ond arfer yw ag sydd yngofidio dynion, yn dianrhydeddu Duw, ac yn gwywo achos crefydd yn y wlad. Ond y gwreiddyn mawr cyffredinol i'r ofnau a'r amheuon yw y diffyg o'r hyn y mae y testyn yn cymhell iddo, sef y diwydrwydd gyda chrefydd. Er y gelliä meddwl fod ambell un yn ofni ac yn wan ei obaith oblegid na bae yn adnabod Duw, gwrthddrych gobaith, yn well, ac hefyd yn adnabod Crist, sylfaen gobaith, yn well. Ond erbyn yr adfeddylir, paham y mae y dvn felly ? Y mae y Beibl ganddo, a phob cyfleusdra i adnabod y gwrthddrychau a nodwyd, a phaham y mae y dyn yn an- wybodus am danynt ? paham hefyd, ond ei fod yn rhy ddifater i ymofyn yn eu cylch ? Gwreiddyn y drwg yn y fan yma yw y diogi ysbrydol, y diffyg o'r diwyd- rwydd. Gellid meddwl hefyd fud llawer yn ofnus a gwan eu gobaith o eisiau na byddent yn deall beth yw erefydd yn well. Y mae hi ganddynt hwy, ond oblegid nad ydynt hwy yn deall beth ydyw, y maent yn ofni o hyd nad ydyw hi ddhn ganddynt. Yn debyg i ryw ddyn gyda dyweyd prof- iad: yr oedd ar ei feddwl ef ddyfod i'r society, ond yr oedd wedi clywed y bydd- ent yn dywedyd profiad yn y society, ac yn ei fyw ni buasai yn deall beth oedd hyny. Yr oedd wedi dysgu daillen, acyr oedd ganddo ddwy weddi neu dair yn barod erbyn dyfod i'r society. Chwi a