Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHEAW, IMo IMSo Butoínptj&taetîj. LLYTHYRAU AT GYFAILL WRTH GYCHWYN YN NGWAITH Y WEINIDOGAETH. LLYTHYR IV. 'Ac O mor dda yw gair yn ei amser.'"—Solomon. Fy Nghyfaill seechoglawn,— Gan fy mod hyd yn bresenol yn mwyn- hau y bandithion annhraethadwy o fy wyd ac iechyd, galluogir íì i anfon yr ychydig linellau hyn eto yn chwanegol yn gyfeir- iedig atat, mewn gobaith y byddant yn llesiol ac yn adeiladol i ti yn y sefyllfa y gosodwyd di ynddi. Gwirionedd anwadadwy ydyw, mai gair Duw a'r Ysbryd Glàn yn unig sydd yn datguddio digonol Waredwr i bechad- uriaid, ie, a digon ar gyfer eu holl ang- henion. Y mae y profion a nodais yn fy llythyrau blaenorol yn gyfeiriedig yn un- iongyrchiol at y rhai a wadant y bôd o Dduw, neu fel gwrthwynebiad i'r cyfryw o ganlyniad a wadant fod yr ysgrythyrau yn ddwyfol ddatguddiad; ond yn bres- enol cyfeiriaf yr ychydig linellau hyn, ar fy nhaith wrth fyned yn mlaen i brofi dwyfoldeb yr ysgrythyrau, at y rhai a gredant fod Duw, a bod yr ysgrythyrau wedi eu llefaru ganddo—at y rhai a dynant eu holl gysur o ffynnonau add- ewidion Duw yn ei air—at y rhai a or- phwysant eu heneidiau am fywyd tra- gwyddol ar dystiolaeth Duw yn yr ys- grythyrau—ond, yn fwyaf neillduol, atat ti, fy nghyfaill. Y mae llawer o brofedigaethau yn cyf- arfod hyd yn nod â phlant Duw yn fynych tra yn y byd a'r bywyd hwn, pa rai a du- eddant i wanychu eu ffydd a'u hymddiried yn eu Gwaredwr; gan hyny buddiol yw iddynt a hyfryd yw ganddynt gael rhyw ddatguddiad helaethach o Dduw nag a ellir ei gael yn holl natur a gwaith y gre- adigaeth ; ac y mae y datguddiad hwn yn gynwysedig yn yr ysgrythyrau. Yma y mae gogohiant Duw yn dysgleirio gyda'r tanbeidrwydd mwyaf. Yma y cawn hanes am weithredoedd mwy gogoneddus ac ar- dderchog na holl weithredoedd natur, ie, ^wy telediw a rhagorol na chreu byd, a Diwy ardderchog na chreu dyn, sef creu o'rnewydd yn Nghrist Iesu, ac adnew- yddu y dyn oddimewn—creu calon lân ac ysbryd uniawn. Nid oedd cread dyn, neu roddi bywyd i ddyn ar y cyntaf, yn fwy gorchwyl nag anadlu yn ei ffroenau anadl einioes; ond cyn y gallesid cyflawni y gorchwyl o greu o'r newydd yn Nghrist Iesu, rhaid oedd i'r Tad ethol, i'r Mab brynu, ac i'r Ysbryd Glân argyhoeddi a chreu ysbryd uniawn o fewn holl blant Duw, sef y rhai a anrhydeddir â mwyn- had o fywyd tragwyddol. Nid oedd üri cerub, seraff, archangel, nac angel o fewn holl wlad gwynfyd, a'r a allasai gymeryd arno y gorchwyl o waredu dynion o'u trueni. Pan ofynwyd y cwestiwn, Pwy a anfonwn, a phwy a â trosom nif ÿa ngwlad gogoniant, tybygaf bod dystaẅ- rwydd yn teyrnasu yn mhob cornel o honi, nes i'r Mab ddyrchafu ei lef, a dy- wedyd, Wele fi, an/on fi! Wedi i'r Mab o'i wirfodd gynyg ei hun yn War- edwr, tybygaf glywed y Tad yn gofyn iddo, " O fy Mab, a weli di y cystuddiau, y gorthrymderau, y gwasgfeuon, yr hel- bulon, a'r holl drallodion y bydd raid i ti eu goddef a myned drwyddynt wrth ym- roddi i achub pechaduriaid ? A weli di fru y Forwyn—a weli di y cadachau—a weli di y preseb—a weli di ardd Gethse- mane—a weli di lys yr archoffeiriad—a weli di y chwysu gwaed—a weli di yr ys- bwng a'r finegr—a weli di bren garw y groes, ar ba un y bydd raid i ti farw ? ac os gweli y pethau hyn, a elli di ddywedyd, Welefi,anfonfi!" Yna y Mab yn ateb, " O fy Nhad, yr wyf yn rhagweled y cwbl, ac yn wyneb yr holl driniaeth a ddaw i'm cyfarfod, yr wyf yn gwaeddi allan, Bodd- lawìi! da genyf wneuthur dy ewyllys di, O fy Nuw, a'th gyfraith sydd o fewn fy nghalon." Y mae goleuni natur yn profi fod Duw, ond y mae yn fyr o ddangos digonol Waredwr ar gyfer pechaduriaid; ond y mae yr ysgrythyrau yn gwneyd hyny. Y maent yn datguddio Duw fel Tad cy-