Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHEAW, HBMÎÜ W>m 13uöJtnpölriaetfj» ——♦------ SYLWADAU AR RHUF. VIII. 3, 4. Parhad o cyf. vii. dal. 360. III. Y modd neu y dull yn mha un yr anfonodd Duw ei Fab, sef " yn nghyffel- ybiaeth cnawd pechadurus." Fel y mae yr enw Mab Duw ar yr Ar- glwydd Iesu yn arwyddo ei Dduwdod a'i gystadledd yn mhob peth â'r Tad, y mae yrymadrodd " yn nghyffelybiaeth cnawd pechadurus," yn arwyddo ei fod yn wir a pherffaith ddyn, yn mhob peth yr un ffunud a'i frodyr, eto heb bechod. Felly ni a welwn fod yr hwn a anfonodd y Tad iwaredupechaduriaid, ynberffaith Dduw ac yn berffaith ddyn; ac eto, ond un Person. Am y modd y daeth y Person rhyfedd hwn i fod yn Dduw ac yn ddyn yr ydym wedi ein haddysgu, fod "yr Argíwydd Iesu yn Dduw erioed, yn ei hanfod tra- gwyddol," ac y cenhedlwyd ei "ddyndod trwy yr Ysbryd Glân yn nghroth y Forwyn Fair." Ein gorchwyl presenol ydyw chwilio ychydig i mewn, ar lwybr ys- grythyrol, i ryfeddodau y dirgelwch an- nhraethadwy ac anamgyffredadwy hwn. Er fod y geiriau yn dywedyd yr anfon- odd Duw ei Fab ei hun yn nghyffelyb- iaeth cnawd pechadurus, ac ysgrythyr arall yn dywedyd, yr anfonodd Duw ei Fab wedi ei wneuthur o wraig, ac y gelwir ef, yr ail ddyn, yr Arglwydd o'r nef, ac y dywed ef am dano ei huu dan yr enw Mab y dyn, ddarfod iddo ddisgyn o'r nef, nid oes i ni olygu ddarfod iddo ddisgyn o ran ei ddynoliaeth o'r nef i fru y wyryf, ac nad oedd ei ymgnawdoliad ond ffugiol ac ymddangosiadol. Bu rhai, yn oesoedd boreaf Cristionogaeth, mor ffol a haeru peth felly, ond yr oedd eu dychymygion ynfyd yn hollol wrthwyneb i holl dystiolaethau yr ysgrythyrau. Pe buasai y fath haeriadau yn gy wir, buasent ynhollol ddinystriol iholl ddybenion Duw yn anfoniad a chnawdoliaeth ei Fab. " Tyner ymaith o'r grefydd Gristionogol yr athrawiaeth am gnawdoliaeth Crist, a mewn rhai golygiadau y maent i'w gwa- haniaethu yn ofalus. Fel yr ydoedd gan bob un o'r Personau Dẁyfol ei swydd neillduol yn anfoniad a dyfodiad y Mab, felly, yr un modd, yr oedd gan bob un o honynt eiwaith priodolyu ei gnawdoliad. Gwaith y Tad ydoedd trefnu, ethol, ac ordeinio. Gwel Salm xl. 6—8; Ésay xlii. 1; 1 Pedr i. 20. Gwaith yr Ysbryd Glân ydoedd cren, cenhedlu, neu ffurfio y ddynoliaeth yn mru y wyryf, ei neillduo, ei chymhwyso a'i haddurno i fod yn addas i'w huno â Pherson Mab Duw. Felly y tystiolaetha yr ysgrythyrau. " Wele morwyn a fydd feichiog, ac a esgor ar fab." " Ac wele, ti a gei feichiogi yn dy groth, ac a esgori ar fab, ac a elwi ei enw ef Iesu. Yr Ys- bryd Glân a ddaw arnat ti, a nerth y Goruchaf a'th gysgoda di, am hyny hefyd y peth santaidd a aner o honot ti a elwir yn Fab Duw." " Yr Arglwydd a greodd beth newydd ar y ddaear; benyw a am- gylcha ŵr." Gwel Esay vii. 14; Luc i. 26—35; Jer. xxxi. 22. Gelwir hyn yn beth newydd, am na fu ei fath o'i flaen, ac na bydd ei gyffelyb ar ei ol. Dywedir y creodd yr Arglwydd y peth hwn, am nad allai dim ond anfeidrol allu Duw ei gwblhau. Dylem ddeall y gair " creodd " yn yr ymadrodd hwn yn yr un ystyr ag yr ydym i olygu yr ymadroddion sydd yn rhoddi ar ddeall i ni y lluniodd yr Ar- glwydd gorff Adda o bridd y ddaear, ac y gwnaeth efe wraig iddo o asen a gymer- odd o hono. Creodd yr Arglwydd syl- wedd y nefoedd a sylwedd y ddaear o ddim; ond creodd anifeiliaid y maes, a choiff y dyn cyntaf, o bridd y ddaear, a chreodd Efa o asen Adda. Felly creodd yr Ysbryd Glângorffyr Arglwydd Iesu, nid o ddim, eithr o syíwedd y forwyn ei fam Ef. Nid trwy roddi defnydd ynddi hi nad oedd ynddi o'r blaen, fel y gwneir mewn cenhedliad naturiol, ond trwy gy- byddwn ni (medd Hurrion) heb Iach- meryd rhan o'i sylwedd hi, ei neillduo a'i awdwr nac iachawdwriaeth. Er fod cysylltiad neillduol rhwng an- foniad Mab Duw a'i gnarwdoliaeth, eto ffurfio yn gorff perffaith i Fab Duw. Yn hollol gytunol à hyu, ac mewn cyfeiriad ato (os golygwyf yn gywir), y mae geiriau