Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YE ATHRAW, tAflOT, HG4UB. lauönnpDUiaetîj. »------ LLYTHYRAU AT GYFAILL WRTH GYCHWYN YN NGWAITH Y WEINIDOGAETH. LLYTHYR III. "Ac O mor dda yw gair yn ei amser!"—Solomon. Fy anwyl a serchoglawn Gyfaill,— Dywenydd nid bychan genyf gael y cyfleusdra hwn eto yn bresenol, i ysgrif- iaw yr ychydig linellau hyn atat, mewn gobaith y byddant o ryw ddefnydd i ti, ac yn dderbyniol genyt. Rhaid yw i mi gyfaddef í'y annybendod mawr wrth geis- io ffurfio llythyr í'el hyn atat; ac y mae y mater yr wyf yn ysgrifenu arno yn ei wneyd ychydig yn fwy annyben, a hyny o herwydd nas gallafgynwys y cwbl mewn un llythyr; ond dechreuaf y tro hwn eto gyda'r mater ag y terfynais y tro diweddaf; ac âf yn mlaen i brofi bodolaeth Duw. V. Gellir profi bod Duw, oddiwrth y dymuniadau gwresog sydd yn blanedig yn yr enaid, fel na all ymorphwys ar ddim, na chael cyflawn foddlonrwydd mewn dim, llai na'r Bôd o ddwyfol ber- ffeithiau. Gan hyny, y mae y cyfryw Fôd, sef Duw. Ymddengys hyn yn mhell- ach os ystyriwn, yn 1. Ein bod ni yn gwybodtrwy brofìad, er fod yr enaid yr amser presenol yn cael rhyw bleser a hyfrydwch mewn mwyn- had o fywyd anifeilaidd, eto y mae bob amser yn dymuno rhagor, o ba ryw bynag y byddont; a'r rheswm am hyny ydyw, nad ydynt yn gydradd, neu yn gymesur i'w ddymuniadau (eçual to kis desires). Solomon brenin Israel, a'r dyn doethaf a fu yn y byd erioed, a fethodd â chael digon mewnpethau creadigol, aphleserau cnawdol, i lanw dymuniadau ei enaid. Gwnaeth ef brawf têg o'r holl bethau dan haul, ond y result ar y cwbl oedd "Gwagedd." Efé a gasglodd ddoethineb tuhwnt i neb a fu o'i flaen yn Jerusalem —rhoddodd ei galon i ynfydrwydd a ffolineb—profodd ei hun â llawenydd— ceisiodd ei galon ymroddi i win—adeil- adodd dai—plannodd winllanoedd—pen- tyrodd arian ac aur fel llwch a cherig— yn fyr, eie a ymroddodd i holl bleserauy oywyd hwn, i chwilio a phrofi pob peth a "wnaed dan haul; ac ar ol y cwbl, yr oedd dymuniadau ei enaid heb gael eu hanw. Gwagedd a gorthrymder ysbryd oedd y cwbl yn y diwedd, ac ni chafodd ddim ag y gallasai ddywedyd am dano, Dyma beth newydd, ac a dâl chwilio ac ymbleseru ynddo ; ond wele, hyn yn unig a gefais (ebe efe) yn fy holl lafur a'm trafferth, wneuthur o Dduw ddyn yn uniawn, ond hwy a chwiliasant allan lawer o ddychymygion. Ar ol ei ymchwiliad manwl, ni chafodd ddim ag yr oedd ei enaid yn cael gwir hyfrydwch ynddo: " Ni ddigonir y llygad â gweled, na'r glust â chlywed," Preg. viii. 15. 2. Ni allwn dybied fod y fath ddymun- iadau wedi eu planu yn yr enaid, heb fod rhyw beth digonol wedi ei ddarparu ar eu cyfer i'w llenwi; canys os felly, byddai y creaduriaid ardderchocaf ar wyneb y ddaear yn fwy truenus nac an- ifeiliaid y maes, pa rai a fwynhant yr hyn a ddymunant i'r helaethrwydd mwyaf. Y maent oll yn dysgwyl wrth rywun am roddi iddynt eu bwyd yneibryd; ac a rodder iddynt a gasglant; agora ef ei law, a llenwir hwy â daioni. 3. Gan hyny rhaid yw o angenrheid- rwydd fod Un, yr hwn a all lanw a di- wallu y dymuniadau hyn i'r helaeth- rwydd mwyaf, yr hwn yw Duw, ffynnon pobbendithion. VI. Gellir profi bod Duw, oddiwrth gydsyniad holl genhedlaethau y byd â'r gwirionedd hwn. Yn awr, yr hyn y mae holl ddynolryw yn cytuno âgef, syddraid ei fod wedi ei sylfaenu ar natur dyn; a'r hyn sydd felly, sydd amlwg trwy oleuni natur. Gwir yw fod llawer, fel y dywed yr apostol, " a hwy yn adnabod Duw, nas gogoneddasant efmegysDuw; eithr ofer fuant yn eu rhesymau, ac a newid- iasant wirionedd Duw yn gelwydd, ac a addolasant ac a wasanaethasant y creadur yn fwy na'r Creawdwr," Rhuf. i. 24. Ond nid ydym i gasglu wrth hyny fod y cenhedloedd eilunaddolgar heb yr un meddwl am Dduw, ond, i'r gwrthwyneb, fod rhywbeth yn natur dyn yn tystiol- aethu y dylai addoli rhyw iôd dwyfol, yr hwn ni allant ei adnabod yn ddigonol trwy