Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

toYB ATHÜAW, ' AM £3ütotnpîimaetf> LLYTHYRAU AT GYFAILL WRTH GYCHWYN YN NGWAITH Y WEINIDOGAETH. LLYTHYR I. (Ac O mordda yw gair yn ei amser .'"—Solomon. Fy Nghyfaill anwyl a hoff,— Derbyniais hysbysiad yn ddiweddar oddiyna dy fod di wedi cychwyn gyda gwaith mawr y weinidogaeth; ac oddiwrth y gymdeithas felys a fu rhyngom amryw weithiau yn yr amser a aeth heibio, bern- ais y byddai yn dderbyniol genyt glywed oddiwrthyf yn awr ac eüwaith, ac y cerit i mi sylwi ychydig yn amgylchiadol ar y ddyledswydd ardderchog a phẃysig o bregethu yr efengyh Gyda gostyngeidd- rwydd yr addefaf fy mawr annheilyngdod i roddi i ti un cynghor; canys yr wyt yn feddiannol ar ragorach cymhwysderau nag sydd eiddof fi; ond yn yr hyn a ddywedaf, ymdrechaf gadw at reolau gair Duw, ac yna ni byddperygl i migyfeiliorni; canys "cynifer ag a rodiant yn ol y rheol hon, tangnefedd arnynt a thrugaredd, ac ar Israel Duw." Y mae pregethu efengyl eiu Har- glwydd Iesu yn orchwyl tra phwysig, ac fe weddai i sobrwydd mawr feddiannu pawb a fyddont yncaeleutuedduat y gorchwyl hwn. Nid wyf yn bresenol yn myned i farnu dy gymhwysderau di at y gorchwyl hwn, gadawaf hyny i'm brodyr parchus, pa rai ydynt yn hollol alluog at hyny; ond fy amcan i ydyw gosod allan yr hyn a ddylai gael ei bregethu i glywedigaeth pechaduriaid colledig, sef " holl gynghor Duw." Sylfaen y grefydd Gristionogol ydyw gairDuw, asylfaengair Duwydyw y llefarwr o hono; gan hyny gallwn ddy- weyd gyda phriodoldeb, mai Sylfaen y grefydd Gristionogol ydyw y Bòd o Dduw. Pwnc ydyw.hwn ag y dylem fod yn gad- arn ynddo yn y dyddiau presenol, gan fod cymaint o Atheistiaeth> Owenyddiaeth, Puseyaeth, &c, yn Hedaenu ac yn blaguro yn ein tir; oblegid er cymaint ö ẃaith dwylaw hollalluogrwydd ag y mae y ffurfafen yn ei fynegu, ac er fod dydd i ddydd yn traethu ymadrodd, a nos i nos yn dangos gwybodaeth» ac er cymaint o allu a doethineb Duw sydd i'w weled yn holl waith y greadigaeth; i'e, er y cwbl, roeddaf, " yr ynfyd a ddywed yn ei galon, Nid oes unDnw:" v mafi Athfiisti&p.t.h oes un Duw;' y mae Àtheistiaeth yn fyw ac yn blodeuo yn ein tir. Fè allai fod gormod cywilydd ar lawer Ath- eist i ddywedyd ar dafod leferydd, nad oes Duw; eto, wrth eu gweithredbedd a'u hagweddau y bernír hwynt. Gan hyny, y peth blaenaf ag y dylem fod yn gadarn ynddo er mwyti diwreiddio Hygr- edigaethau, er mwyn milwrio yn erbyn cyfeiliornadau, ac er mwyn dadfeiíio teyrnas y tywyllwch, ydyw am Sÿ Béd o Dduw; ac os na fyddwn yu gadarn yn y pwnc hwn, ni fydd y cwbl a ddyWedom ac a wnelom ond mogys adeiladü adeilad heb un sylfaen. Y prawfion mwyaf am- lwg a chadarn a allwn eu cael o fodolaeth Duw sydd yn yr ysgrythyrau santaidd: yma y mae ffynnon pob gwybodaeth Grist- ionogol; yma y gosodir ef allan fel y mae, yn Dduw cyfiawn ac yn achubydd, yn Dduw y gras, ac yn Dduw y cariad, i'e, yn Dduw trugarog tuag at bechaduriaid. Gwir yw, í'el y dywedais, fod y Bôd o hono yn cael ei brofi yn y greadigaeth fel Duw hollddoeth, fel Duw hollalluog, fel Duw gogoneddus; ond nid oes yno yr un llythyren o ras a thrugaredd wedi ei har- graffu yn un man, gan hyny rhaid i bech- aduriaid colledig wrth ddwyfol ddatgudd- iad, ac amlygiad eangach na'r un naturiol. a'r cyfryw ydyw yrysgrythyrau santaidd. Ond fe ddylem fod yn gadarn o fbdolaeth Duw trwy resymau, heblaw trwy yr ys- grythyrau, a hyny (fel y lled grybẅyllais yn fiaenorol) o herwydd fod llawer yn ein byd yn gwadu eu dwyfoldeb, (fe alíai y caf syíwi yn mlaen, mewn amser dy- íbdol, mewn perthynas i'w dwyfoldeb), a hefyd am mai y Bòd o Dduw ydyw syl- faen y grefydd Gristionogol; gan hyny ni ddylem orphẅys ein cred a sylfaenu ein barn ar draddodiad ein tadau a'n henafiaid yn uüig, heb i ni chwilio i mewn i'r gwii> ionedd hwu ein hunain» Mae yn ddyled- swydd arnom gredu y gwirionedd ; ond ni ddylem gredu peth o gymaint pwys, am mai felly y cawsom ein dysgu o'n maban- dod, heb i ni dreiddio ac archwilio i eirwir- edd y peth; ac y mae genym natur a'i holl