Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW, TACHWEDD, 1842. CHtájmnDmactJ), -------» TRAETHAWD AR DDIWEIRDEB AC ANLLADRWYDD. Yr achlysur i mi gymeryd fy ysgrifell yn fy llaw i ysgrifenu ar y pwnc yma yd- oedd rhyw gymhelliad a ymafiodd ynof pan yn gwrando ar y Parch. R. 0. yn areithio ar Ddirwest yn Rehoboth, Llan- beris; ac wrth fyned yn mlaen gyda'i araeth Ddirwestol, fe dafiodd y gŵr ryw awgrymiad ar ddiweirdeb; a sylwaisar y mater, ac aethym i air yr Arglwydd i ymofyn am sylfaen i adeiladu arni, a chefais hyd iddi yn Exod. xx. 14, sef "Na wna odineb," ac yn bresenol yr ydwyf yn ymegni'o i ddangos fy meddwl ar y mater pwysig yma. Nid wyf am honi fy hun yn alluog i ddangoa y pechod echryslon o anlìadrwydd yn ei liw ysgeler fel y dylai gael «i ddangos i ieuenctid ein gwlad; ond os gwelwch y sylwadau yn werth eu hargraffu, wele hwynt at eich gwasanaeth, i'w rhoddi yn eich Cyhoedd- iad gwiwglodus; a gobeithiwyf y bydd i hyn o linellau gynhyrfu galluoedd rhyw rai mwy medrus i ysgrifenu ar y mater hwn, gan ddysgwyl i'r Arglwydd fendithio eu hymdrechiadau i symud y llen oddiar feddyliau y genedl sydd yn codi y dyddiau hyn heb adnabod yr Arglwydd. "Na wna odineb," Exod. xx. 14.—Yn y bennod hon yr ydym yn cael fod yr Ar- glwydd yn gwahardd cenedl o ddyuion yn y rhif unigol, fel pe na byddai dim a fynai âneb o'r genedl ond un person yn unig; ac yn mysg yr holl orchymynion sydd yn y bennod bon, y mae geiriau rhyfedd y testyn, yr hyn yn yr ystyr cyfyngaf a mwyaf priodol o'r gair ydyw "ymrewydd rhwng gwryw a benyw," pan fyddo un öeu y ddau mewn ystâd briodasol. Os na bydd ond un o honynt yn briod, gelwir y pechod yn odineb unig; os bydd y ddau yn briod (ond nid à'u gilydd), gelwir y pechod yn odineb deublyg; ond y mae y gair Hebreig, medd esbonwyr, yn arwyddo puteindra ac aflendid anniwair o bob math, a rhwng pob math o ddynion; a diau fod hyny oll yn cael ei wahardd yn y gorchymyn hwn. Er na chyfrifir putein- dra yn annghyfreithlon gan lawer a'u galwant eu hunain yn Gristionogion, eto cyfrifir.ef felly gyda Duw, a gwaherddir 2 o yma bob math o aflendid o'r natur hyny yn weithredol a meddyliol hefyd, a phob peth a dueddo at anlladrwydd. Ond os mynwn wybod beth a feddylir yn yr ystyr helaethaf wrth y pechod a waherddir yma, darllenwn Lef. xviii. 6—23, Ue y cawn agoriad helaeth ar yr adnod hon: ond gwarth ar ddynoliaeth fod achos enwi y fath bethau, a rhoi y fath waharddiadau ag a geir yn y bennod hon. "Eithr puteinwyr a godinebwyr a farna Duw," Heb. xiii. 4. Ond yn bresenol ymdrechaf wneyd ychydig sylwadau ar y gwaharddiad a ganfyddir yn y testyn, " Na wna odineb." Y mae y pechod o anlladrwydd yn neul- duol o atgas gan y Duw santaidd, ac yn cael ei gondemnio yn ei air ef. Annghyf- raith yw pechod. Y mae peidio gwneuthur yr hyn y mae y gyfraith yn ei orchymyn, yn bechod; ac y mae gwneuthur yr hyn y mae y gyfraith yn ei warafun, yn bech- od. Y mae cyfraith yr Arglwydd yn cyraedd y meddyliau yn gystal a'r gweith- redoedd; canys felly y dywedir gan yr Arglwydd yn Mat. v. 28, " Yr ydwyf fiyn dywedyd i chwi, fod pob un a'r sydd yn edrych ar wraig i'w chwennychu hi, wedi gwneuthur eisoes odineb â hi yn ei galon." Y galon yw tardd-le ac eisteddfa pechod, Felly y dywed ein Harglwydd, yr hwn a wyddai yn dda beth oedd mewn dyn: "Canys o'r galon y mae meddyliau drwg yn dyfod allan," Mat. xv. 18, 19. Enwir meddyliau drwg yn gyntaf, oblegid y rhai hyn yw prif egin pechod; a'r rhai hyn, wrth eu coleddu, a ddygant alhm yn fuan ffrwythau chwerwon a gwenwynig—god- ineb, tor-priodas, lladdiadau, &c. Y mae ein Harglwydd yn eu cysylltu, am eu bod yn aml yn canlyn mewn olyniaeth athrist. Felly y dywed lago hefyd, "Chwantwedi ymddwyn a esgor ar bechod; pechod hefyd, pan orphener, a esgor ar farwol- aeth." Gan hyny gwyliwch rhag coleddu meddyliau drwg, neu ddymuniadau anllad, oblegid eu tuedd yw marwolaeth; " cyflog pechod yw marwolaeth." Er fod pob pechod yn anfoddloni Duw ac yn haeddu, ei ddigofaint, eto y mae rhyw beŵ pieiU»