Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW, AM AW8T, 1842é Uucỳcìfífiattt)* ------♦------ BYWGRAFFIAD Y PRESIDENT EDWARDS, O AMERICA. Rhan III.—Ei Ddyddiau diweddaf. Parhad tudalen 196. Bu y driniaeth a gafodd Mr. Edwards fa. Nortkampton, yn foddion i gyffroi teimladau bywiog o'i blaid ar ddau 'du yr Atlantic. Yr oedd ei ohebydd, Dr. Erskine, yn dra awyddus am iddo ddyfod drosodd i'r Alban, ond ni fynai efe fedd- wl am ymadael o'i wlad, heb alwad am- hvg arno i gymeryd y fath gam; a chy- merodd dygwyddiadau le yn fuan yn rhagluniaeth rasol Duw, ag a wnaeth hyny yn ddiangenrhaid. Yn gynar yn Rhagfyr, 1750, derbyniodd Mr. Edwards gynygion oddiwrth eglwys a chynulleidfa Stochbridge, i ddyfod yn weinidog iddynt, ac oddeutu yr un amser gwnaed cynygion cyffelyb iddo gan y " Gymdeithas yn Llundain er lledaeniad yr Efengyl yn Lloegr Newydd, a rhanau cyfagos ereill," i fyned yn genadwr at yr Housatonnucfcs, neu y Rwer Indians. Gan fod y genedl hon ar y pryd yn sef- ydledig yn Stocìcbridge, a'r cymydog- aethaunesaf, Mr. Edwards a dderbyniodd y ddau gynygiad, ac yn ganlynol efe a symudodd yno. Oddeutu yr amser hwn, y Mohawhs, yn nghyda rhai cenhedloedd ereill, a ddangosasant ddymuniad nodedig i gael eu plant wedi eu haddysgu, ac o ganlyniad, hwy a'u hanfonasaht i'r ysgol i Stochbridge. Wedi i'r Ffrancod gael eu hysbysu am ymdrechicn y Saeson o blaid y crwydriaid tywyll hyn, hwy a ddymunent gael myned mewn cyfammod â hwynt, ac yn ddiymaros a fabwysiad- asant bob dyfais er llwyddo gyda hwynt i ymfudo i Canada ; felly yr oedd yr amser y dechreuodd Mr. Edwards ei ddyled- swyddau yn Stochbridge, yn amser ag yr oedd llwyddiant y Trefedigaethau Pry- deinaidd yn dra chysylltiedig. Cafwyd ei bod yn annichonadwy i addysgu plant yr Indiaid, cyhyd ag y caniateid iddynt aros gyda'u rhieni, gan hyny cyfodwyd ysgolion cydwestteiol {boarding schools) helaeth, a thrwy ym- drechion Mr. Edwards cafwyd athrawon galluog, a dechreuwyd ar gyfundrefn reolaidd o addysg. Yr oedd Mr. Ed- 2 F wards yn gweled ei bod yn anhebgorol angenrheidiol i ddysgu yr iaith Saesonig i'r plant, gan fod eu hiaith hwy, fel y noda efe ei hun, " yn dra barbaraidd a diffaeth, ac yn dra annghymhwys i drosglwyddo pethau moesol a dwyfol, neu bethau golygiadol a dansoddawl {speculative and abstract)." Gan nad oedd y Beibl chwaith yn eu hiaith hwy, yr oedd hyny yn gwneyd y mater hwn yn fwy pwysig. Er fod Mr. Edwards yn ddiwyd a ffydd- lon, ni choronwyd ei lafur â llwyddiant cyfatebol. Yn ystod ei arosiad yn Stocfc- bridge, arferai bregethu ddwywaith yn yr wythnos i'r bobl wynion, ac unwaith, trwy gynorthwy cyfieithydd, i'r Housa- tonnuchs, ac unwaith i'r Mohawhs; ac egwyddoraihefyd, unwaith bob wythnos, blant pob un o'r dosbeirth hyn. Os nad oedd ei lwyddiant ond ychydig, nis gall neb ddywedyd fod hyny yn cyfodi oddiar esgeulusdra ar ei ran ef. Mewn llythyr at Mr. M'Culloch o Cambulsang, yn y flwyddyn 1752, Mr. Edwards a rydd yr adroddiad a ganlyn am y genadaeth: " Y mae y genadaeth Indiaidd, yr hon yr oedd golwg mor ddymunol agogonedd- us arni y llynedd, wedi cyfarfod er y pryd hyny â rhwystrau annhraethol, trwy ddy- feision neillduol personau penodol, y rhai ydynt yn wrthwynebol yn eu cynghorfáau a'u mesuraui ddirprwywyry Gymdeithas yn Llundain, ac y maent hyd eithaf eu gallu yn ymdrechu i gyfiawni eu bwriadau mewn gwrthwynebiad iddynt, ac yr wyf finau yn yr ymdrech fawr hon yn cael edrych arnaf fel un tra atgas. Y maent yn perthynu i deulu o beth hynodrwydd, y rhai a fywiog gefnogasant ac a wth- iasant yn mlaen fy ngwrthwynebwyr yn Northampton, ac a fuont y prif achos o'm symudiad o'r drefhòno, ac yr oedd fy ymsefydliad yn Stochbridge yn ofidus iawn iddynt, ac y maent yn awr yn cy- meryd y cyfie i ymdrechu hyd eithaf eu gallu i wanychu fy interest a'm dylanwad, ac y mae genyf bob rheswm i dybied y gweilhient o danaf ac y danfonent fi yn