Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW, MEHÜFII, 1942. ìSutỳtttoiattì). --------4-------- BYWGRAFFIAD Y PRESIDENT EDWARDS, O AMERICA. Rhan. II.—Ei Lafur a'i Fywyd Gweinidogaethol. Parhad tudalen 43. Aeth Mr. Edwards i Neiv-Haven, Con- necticut, yn Medi, 1723, lle y derbyniodd ei radd o Athraw yny Celfyddydau, acyr etholwyd ef yn athraw i'r Coleg. Ar ol dal y swydd hon am ddwy fiynedd, efe a dderbyniodd gynygion oddiwith bobl Northampton i ddyfod yn gyd-weinidog iddynt â'i daid Mv. Stoddard; efe a dder- byniodd yr alwad hon, ac a ordeiniwyd yn weinidog yr efengyl ar y 15fed o Chwefror, 1727. Dechreodd yn ddioedi ar ei lafur, ac arferai barotoi dwy bregeth bob wythnos, heblaw treulio rhan fawr o honi mewn efrydiaeth o'r Beibl, ac mewn ymchwiliad i'r testynau anhawddaf a phwysicaf mewn duwiuyddiaeth. Gan ei fod o gyfansoddiad gwanaidd, yr oedd yn gorfod bod ar wyliadwriaeth barhaus, ac ymarfer yr hunan-ymwadiad mwyaf, mewn trefn i ddwyn yn mlaen ei ymdrech- ion Uafurfawr. Yroedd yn gyffredinol yn treuüaw tair-ar-ddeg o oriau bob dydd yn ei fyfyrgell, a hyny nid i chwilio a thry- sori i fyny feddyliau cofnodedig dynion ereill, ond mewn gorchwyl mwy dyhys- byddawl (exhau$ting), sefymchwiliadaeth annibynol. Gall ymddangos yn ddyeithrol i'r darllenydd pan y dywedwn nad oedd Mr. Edwards yn arfer ymweled â'i bobl yn eu tai eu hunain oddieithr mewn am- gylchiadau o gystudd ac afiechyd. Nid oedd, er hyny, yn esgeuluso yr ymarferiad hwn ö herwydd ei fod yn edrych arno fel peth dibwys, ond o herwydd yr ystyriai ei hun yn anughymhwys i ddal cydym- ddyddaniaeth rydd, a'i ddwyn i ddal ar bethau eysegredig. Ond nid oedd, ar gyfrif hyny, yn llai diwyd, oblegid arferai bregethu yn fynych mewn cymydogaethau neillduol, a galwai ddynion ieuainc a phlant i'w dŷ, Ue yr arferai weddio gyda nwynt, a chyfranu addysg iddynt yn gyfat- ebol i'w hoedran, ac hefyd egwyddorai yr ieuainc yn gyhoeddus bob Sabboth. Yn chwanegol at hyn, treuliainid ychydig o'i amser yn ei fyfyrgell i ymddyddan à pher- sonau ag oedd dan argraffiadau crefyddol, llawer o ba rai a geisient ei gyfarwydd- iadau. Ar yr 28ain o Gorj)henaf, 1727, priod- wyd Mr. Edwards â Miss Sarah Pier- repoint, duwioldeb hynodol yr hon oedd weditynueisylw. "Ychydigobersonau," medd Mr. Dwight, "nad oeddynt hynach nag oedd hi pan y priododd, sydd wedi gwneyd cyfartal gynydd mewn santeidd- rwydd; ac anaml, i'e, anaml iawn, y ceir anghraifft o ganlyniadau purach, neu dded- wyddwch mwy didor yn dylyn y fath gysylltiad." Yramserpan yr ordeiniwyd Mr. Edwards, dechreodd y bobl ddangos sylw cynyddol i grefydd, yr hyn a barha- odd am o gylch dwy fiynedd, yr byn yn annedwyddol a ddylynwyd gan amrai flynyddoedd o ddifâtèrwch. Dechreodd iechyd Mr. Edwards waethygu, mewn canlyniad i'w ymroad dibaid, yn gymaint ag y bu raid iddo roddi i fyny ei ddyled- swyddau gweinidogaethol am amrai fis- oedd, ac i ymneillduo oddiar faes ei lafur, er adgyfanu ei iechyd trwy deithio. Yn gynar yn y flwyddyn 1732, dechreodd crefydd ymadfywio yn raddol yn mysg ei bobl, ac attaliwyd cynydd annhrefn a phenrhyddid. Dan£hosai yr ieuainc yn neillduol dueddiad tra anarferol i dderbyn cynghor; dechreodd amrai o honynt amlygu pryder personol yn eu tragwyddol dded- wyddwch. Y difrif-ddwysder meddwl a ddechreodd ymledu yn awr yn yr eglwys, yr hyn oedd hefyd ar gynydd amlwg, a weithredodd ddylanwad iachusol iawn ar weinyddiadau Mr. Edwards. Yn cael ei gefuogi, fel yn ddiau ei fod, gan y llwydd- iant a ddylynai ei ymdrechion a'i weddi- au, yr hyn oedd yn dyddiol amlygu ei hun, y pregethaú a ddechreuai yn awr draddodi ydynt yn anrhagoradwy (unsurpassed) mewn ysbrydolrwydd a nerth. Er hyny, yr oedd llwyddiant Mr. Edwards yn rhy l'awr i Satanedrych arno gyda llonyddwch; ac, yn ddiamau gyda golwg ar dynu sylw y bobl oddiwrth fater eu heneidiau, efe a gynhyrfodd ddadl ffyrnig ar Arminiaeth yn