Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW, JEBRIIjIì, 1842. Y METHOMST A'R LLANWR. YMDDYDDAN III.— Ymneillduaeth y Methodistiaid—Nad yr un yu> Ymneilldu- aeth a Sism. (Parhad o dudalen 72.) Llan.—Yn ein hymddyddan diweddaf, soniech rywbeth arn Berridge, ficer Ever- ton. Yr wyf wedi annghofio pa fodd y bu rhyngddo a'r esgob. Da chwi, ewch tros y stori. Meth.—Wel, wedi i ryw ysgweier achwyn anio wrth yr esgob, galwyd ef gerbron, ac yn debyg i hyn y bu yr ym- ddyddan:— Esgob.—Wel, Berridge, a osodais i chwi yn mywioliaeth A—y, neu E—-n, neu P—n ? Berridge.—Naddo, my Lord, ac nid wyf fi yn cleimio yr un o'r by wioliaethau hyny. Esg.—Wel, yr ydych yn myned i breg- ethu yno, yr hyn ni feddwch hawl iddo. Ber.—Gwir, my Lord, yr oeddwn un di- wrnod yn E —n, lle yr oedd ychydig o bobl wedi ymgasglu, ac mi a'u cynghorais i edifarhau am eu pechodau, ac i gredu yn Nghrist am fywyd tragwyddol: ac mi a welais bump o offeiriaid yr un diwrnod, oll allan o'u plwyfau, ar E—n bowling- green. Esg.—Pw. Yr wyf yn dyweyd nad oes genych chwi hawl i bregethu allan o'ch plwyf; ac oni pheidiwch chwi, byddwch yn debyg o gael eich danfon i garchar Huntingdon. Ber.—Nid oesgenyf ryw hoffder mewn carchar, my Lord, mwy na dynion ereill. Ond gwell genyf fyned yno efo chydwybod dda, na bod yn rhydd hebddi. Ar hyn edrychai yr esgob yn ddwys ar Berridge, gan sicrhau wrtho yn ddifrifol iawn ei fod wedi gwallgofi, ac y byddai yn mhen ychydig iawn o fisoedd yn well, neu'n waeth. Ber.—MyLord, gellwchwneydeichhun yn hapus o ran hyny; os byddaf yn well, yr ydych yn meddwl y peidiaf â'r ar* feriad hon o honof fy hun; ond os gwaeth, ni raid i chwi mo'm danfon i garchar Huntingdon ; canys bydd y Bedlam yn llawer cymhwysach lle i mi. Esg.—[Gan roddi heibio fygwth, a de- chreu perswadio,]—Chwi a wyddoeh i mi fod yn ffrynd i chwi, ac mi a fynwn barhau felly; yr wyf yn cael fy mlino o hyd gan achwynion yr offeiriaid o'ch cwmpas. Cedwch o fewn eich plwyf, a gwnewch fel a fynoch. Ni feddaf fi fawr o amser i fyw, peidiwch â dwyn fy mhen- llwydni i fedd mewn gofld. Ewch i'ch llety, a deuwch i giniawa gyda mi. "Mi a aethym, (medd Berridge,) a chyn gynt- ed ag y cyrhaeddais fy 'stafell ddirgel, syrthiais ar fy ngliniau. Gallaswn ddal y bygythiad, ond nis gwyddwn pa fodd i wneyd efo'r deisyfiad." Wel, fe gafodd ymddwyn tuag ato gyda thiriondeb mawr ar y ciniaw: ond yr oedd yno ddau ŵr boneddig dyeithr ereill yn cyd-giniawa, pa rai, wrth fod yr esgob, mae'n debyg, wedi adrodd iddynt yr helynt, a edrych- ent ar Berridge fel pe buasai ry w anghen- fil. Wedi ciniaw aeth yr esgob a Ber- ridge i'r ardd dan ymddyddan. Esg.—-Wel Benidge, a ydych wedi ya- tyried fy nghais ? Ber.—Ydwyf, my Lord, ac wedi bod ar fy ngliniau gydag ef. Esg.—A ydych yn addaw, ynte, na phregethwch ddim rhagor allan o'ch plwyfî Ber.—Byddai yn dda iawn genyf, pe gallwn â chydwybod ddirwystr gydsynio à chais eich arglwyddiaeth: ond gan fy