Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW, AM MAWBTH, 1842. Y METHODIST A'R LLANWR. YMDDYDDAN II.—Methodistiaeth. (Parhad o dudalen 40.) Llan.—Yn ein hymddyddan y tro o'r blaen, arferech dipyn o lymder mwy na pheidio at yr eglwys, am ei gwaith yn liòni iddi ei hun y fath enw. Ond ai gwell attolwg yw'r bobl sydd yn galw eu hunain yn Fethodistiaid neu Drefnyddion? Os yw un blaid wrth alw eu hunain "yr eglwys" yn cymeryd yn ganiataol beth sydd i'w brofi, sef fod pawb arall allan o eglwys Crist, onid yw plaid arall wrth alw eu hunain yn Drefny ddion yn cymeryd yn ganiataol beth a ddylent ei brofì, sef, nad oes drefn yn mhlith neb ond hwy ? Meth.—Pe buasai yr enw hwnw yn beth o ddyfais y Methodistiaid eu hunain, buasent, i'm tyb i, i'w beio am gymeryd y fath enw: ond cofiwch mai eglwyswyr a roddasant yr enw hwn gyntaf, mewn ffordd o wawd, arnynt hwy, ac ar bawb a debygai iddynt. Ac yna wedi i'r enw Methodistiaid ddyfod yn enw cyffredinol arnynt gan y wlad, codasant y groes trwy ymgymeryd â'r enw, er y gwyddent mai o wawd y rhoddesid ef arnynt. Ond eto, pell ydynt o gymeryd mantais oddiwrth yr enw i geisio gan y wlad feddwl mai yn eu plith hwy yn unig y mae dim teilwng o'i alw yn drefn, cyn belled fel y gwrth- ododd y Methodistiaid Calfinaidd yn Nghymru gyfieithu yr enw i'r Gymraeg yn eu "Cyffes Ffydd." Ac mi a ddy- munwn i iddo gael ei adael yn annghyf- iaith byth, fel yr enwau sydd yn y beibl; oblegid pan y mae'r wlad yn deall pwy ydys yn ei feddwl wrth y Methodistiaid, y mae holl ddyben yr enw yn cael ei ateb. Llan.—Deall? Pa fodd y deallwn ni, Pan y mae cryn hanner dwsin o bleidiau yn cleimio'r enw, ac yn ymryson am dano? Meth.—Ymae'n wir fod amryw bleidiau yn galw eu hunain yn Fethodistiaid, ond nid wyf yn deall fod dim ymryson am yr enw yn eu plith; canys y mae pob un yn cysylltu rhyw gydenw âg ef, fel eu gwa- haniaether oddiwrth Fethodistiaid ereill, megys Methodistiaid Calfinaidd, Method- istiaid Wesleyaidd, &c. Yr wyf yn meddwl fod yr holl bleidiau Methodist- aidd yn agos o'r un farn am yr hyn a elwid ar y cyntaf yn Fethodistiaeth. Llan.—Rhowch glywed,ynte, bethoedd hyny. Meth.—Os byddwch yn ddigon amyn- eddus i wrando, mi a adroddaf i chwi dipyn o hanes dechread Methodistiaeth, a bydd hyny yn fantais i chwithau i farnu beth a feddylid ar y cyntaf wrth yr enw. Llan.—Purion. Go on, canys yr wyf yn mawr hoífi cael ystori dda, yn enwedig am yr hen amser. Meth.—Hen enw ar ryw blaid o fedd- ygon oedd Methodistiaid: ond fel y son- iais o'r blaen, fe'i rhoddwyd mewn ffordd o ddirmyg ar y ddau Wesley, Whitefield, Hervey ac ereill yn mhrif-ysgol Rhyd- ychain, am eu bod yn byw yn fwy dich- lynaidd, yn arfer darllen, gweddio, &c, efo'u gilydd, ac na chydredent âg ereill "i'r unrhyw ormod rhysedd." Dywed rhai mai Mr. Charles Wesley a anrhy- deddwyd gyntaf â'r dirmyg o'i alw yn Fethodist. Pa fodd bynag, daeth Mri. J. Wesley a Whitefield i'r fath enwogrwydd yn fuan, fel y cawsant eu hystyried yn sylfaenwyr plaid o bobl, er, fel y caf ddangos eto, mai pell oddiwrth eu bwriad