Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW, CMWEFROR, 1842. Y METHODIST A'R LLANWR. ( Parhad o At.—Nage, Syr, pictiwr fy mab George, yr hwn oedd yn forwr, yw hwnyna; a'i feistr George y Trydydd, oddiarno. A'r ochr arall y mae Adda ac Efa, ein rhieni cyntaf. Dr. V.—Wel, wel, mi a welaf nad oes arnoch eisiau dim. Nid ydyw arian yn bethau i'w rhoddi i'ch bath chwi, ac ni roddaf fì mo honynt ychwaitli i'r fath bobl. A roddaf fì ymaith arian yr elusen cyffredin, i gynal sectariaid a sectariaeth? Pa beth? Rhwng Pabyddiaeth ar un llaw, ac ymneillduaeth ar y llaw arall, y Fiolents a'r Foluntaries, bydd eg- ìwys Loegr wedi ei llyncu." Llan. Tybed y clywai neb ar ei galon fod mor greulon a hýna wrth y tlawd? y mae'r adroddiad yn abl i synu dyn. Meth. Y mae arnaf ofn eich bod yn fy nghamgymeryd i a'r hyn a ad- roddais. Nid wyf fi yn myntumio fod y llanwyr yn greulonach at y tlawd, na phobl ereill; canys gwn fod llawer o honynt yn esiamplau o elusengarwch yn eu cymydogaethau. Ac nid wyf yn amau dim, na bo'r Dr. V. o ran ei nodwedd cyffredin, yn ẃr trugarog wrth y tlawd, ac yn oruchwyliwr gonest yn yr hyn a ym- ddiríedid iddo, amgen ni buasai y plwyfolion elusengar yn ei gymeryd yn elusen-weinyddwr iddynt. Ond yr hyn sydd yn ymddangos i mi yn galed yn ymddygiad y Dr. V. yw hyn; er fod ei dosturi tuag at y tlodion, wrth eu gweled mewn noeth- ni a newyn yn misoedd y gauaf oer, yn dra mawr; ac er nas gallai ei gyd- wybod lai na dyweyd wrtho mai cyf- dudalen 8.) iawn a fuasai i'r elusen a gasglwyd y'mhlith dynion o wahanol enwadau crefyddol, gael ei ranu yn ddibarti- aeth i dlodion o ymneillduwyr, yn gystal ag o lanwyr; eto fod ei greu- londeb at yr ymneillduwyr yn codi y fath ystorm yn ei feddwl, nes bod llais cydwybod yn cael ei foddi, a'r teimlad rhagorol o drugaredd i'r tlawd yn cael, ar y tro hwnw beth bynag, ei lwyr orchfygu. Llan. Wel, nid ydych chwithau, yr ymneillduwyr, nemawr tirionach tuag at yr eglwyswyr. Meth. Yr wyf fì yn meddwl ein bod yn llawer iawn tirionach. Y mae'n wir fod cysylltiad annghy- mharus eglwy s Loegr â'r wladwriaeth, —ei gwaith, trwy hyny, yn gormesu ar ymneillduwyr, y'nghyda llawer o'i threfniadau, yn bethau nas gall- wn efo Beibl a chydwybod lai na'u gwrthwynebu: ond wedi'r cyfan, yr ydym yn credu fod ynddi lawer o bobl dduwiol a da, ac yr ydym yn ceisio gweddio drostynt, nid fel he- reticiaid, ond fel " cydetifeddion gras y bywyd." Ac nid wyf yn cofio i mi glywed am neb ymneillduwyr yn peri anfantais dymhorol i neb ar gyf. rif eu bod yn eglwyswyr. Yn awr, tra y mae pethau o'r natur a enwais yn gorwedd mor amlwg ar wyneb histori ein gwlad, am y misoedd a'r blyneddoedd diweddaf, nag i'r Uan- wyr alw yr ymneillduwyr yn elyn- ion iddynt, byddai yn Uawer mwy rhesymol i'r ymneillduwyr eu galw hwy felly. Ond y mae galw yr ymneillduwyr yn "elynion yr eglwys" yn enllib